Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Cynnal Arddangosiad Ffilm

Cyn bo hir, bydd myfyrwyr Lefel 3 Cyfryngau Creadigol Coleg Menai yn arddangos eu sgiliau gwneud ffilmiau yn noson Premiere Ffilm gyntaf erioed y coleg.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar 6 Mehefin am 7pm yn Pontio ym Mangor, yn cynnwys cyfres o ffilmiau byr a grëwyd gan y myfyrwyr. Bydd ffilmiau ar ffurf fideos cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, ffilmiau byr, a fideos hyrwyddo, o fewn genres megis arswyd, animeiddio, a chwaraeon.

Craig Roberts, darlithydd Cyfryngau Coleg Menai fydd yn cyflwyno’r noson, lle bydd y gynulleidfa hefyd yn cael pleidleisio dros eu hoff ffilm.

Bydd y gynulleidfa hefyd yn cael mwynhau perfformiadau byw gan fyfyrwyr Cerddoriaeth Coleg Menai cyn y sioe ac yn ystod y cyfnodau o egwyl.

Meddai Richard Williams, darlithydd Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Menai,

“Dyma gyfle cyffrous i’r dysgwyr ddangos eu sgiliau ac i dynnu sylw at yr ystod o dalent newydd sy’n dod i’r amlwg yng Ngogledd Cymru. ⁠ Noson y dysgwyr ydy hi; i gael y sylw y maent yn ei haeddu ac i gael y wefr o weld eu gwaith caled i fyny ar y sgrin fawr gyda chynulleidfa”.

Ychwanegodd, “Mae’r arddangosiad yn gyfle i’r myfyrwyr ddangos y gwaith y maent wedi bod yn gweithio arno yn ystod eu cyfnod gyda Choleg Menai, ac i roi blas i’r gynulleidfa o’r math o waith sydd ynghlwm â’r cwrs Cyfryngau Creadigol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Pontio,

“Pleser o’r mwyaf yw croesawu Coleg Menai i Sinema Pontio. ⁠Rydym yn credu'n gryf mewn caniatáu i wneuthurwyr ffilm ifanc arddangos eu gwaith ar y sgrin fawr i gynulleidfa. Nid yw llawer o wneuthurwyr ffilmiau addawol yn cael y fraint o ddangos eu gwaith, a bydd hwn yn achlysur gwych i roi'r rhyddid iddynt fynegi eu hunain trwy gelfyddyd y sinema".

Mae tocynnau ar gyfer y Premiere Ffilm ar gael yma, am £5.