Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tri cyn myfyriwr yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Eleni mae tri o gyn myfyrwyr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, safle Pwllheli, wedi eu dewis ar restr fer y gystadleuaeth, sef Sioned Erin gyda’r gyfrol Rhyngom yn y categori ffuglen, Llyr Titus gyda’r gyfrol Pridd hefyd yn y categori ffuglen a Sioned Medi Evans gyda’r llyfr i blant, Byd Bach dy Hun.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith - Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Mae Sioned Erin Hughes yn 24 mlwydd oed ac yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor wedi iddi orffen eu hastudiaethau yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, ac yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion - llyfr a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion eleni.

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan gwmni’r Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn mae Sioned Medi Evans bellach yn byw ac yn gweithio fel dylunydd llawrydd yng Nghaerdydd. Mae’n teimlo’n angerddol am ddarlunio, adrodd stori a phortreadu bywyd bob dydd yn ei gwaith, gan geisio ychwanegu ychydig o liw a phositifrwydd i’r byd.

Dywedodd Bethan Mair Hughes, darlithydd Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ond fel Coleg rydym yn ymfalchïo’n arw yn llwyddiant ein cyn fyfyrwyr Llyr Titus, Sioned Erin Hughes a Sioned Medi Evans.”

Yn 2023, am y tro cyntaf ers pedair mlynedd, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnal seremoni yn fyw ar lwyfan y Tramshed yng Nghaerdydd ar 13 Gorffennaf.