Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect adfer craeniau Caer Berlan i fyfyrwyr Peirianneg Forol, campws Pwllheli

Aeth dysgwyr o gampws Pwllheli Coleg Meirion-Dwyfor ar ymweliad â chaer hanesyddol ym Mhen Llŷn i gymryd mesuriadau ar gyfer prosiect adnewyddu mawr

Mae myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi dechrau gwaith ar brosiect dwy flynedd o hyd i adfer craeniau Sioraidd yng nghaer hanesyddol Caer Belan.

Bydd dysgwyr sy'n dilyn cwrs Peirianneg Forol ym Mhwllheli yn defnyddio technegau dylunio cyfoes i adnewyddu dau graen sydd wedi sefyll wrth doc y gaer ers dechrau'r 1800au.

Aeth y myfyrwyr a'u darlithydd Ellis Morey i'r safle ger Dinas Dinlle, Pen Llŷn i gymryd mesuriadau a gwneud lluniadau technegol o'r craeniau. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio'r rhain i greu glasbrintiau dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD).

Yn ystod yr haf, bydd staff a myfyrwyr yn cludo un o'r craeniau i gampws Hafan ym Mhwllheli, ac yn mynd ati i'w adfer i'w gyflwr gwreiddiol cyn dechrau gweithio ar yr ail graen.

Adeiladwyd Caer Belan ym 1775 gan Thomas Wynn, a ddaeth yn Arglwydd Newborough yn ddiweddarach, oherwydd ei fod yn poeni am ymosodiadau posibl ar arfordir Prydain yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i defnyddiwyd fel canolfan i'r Gwarchodlu Cartref ac ar gyfer lansio badau achub.

Mae nifer o brosiectau adfer gwahanol yn digwydd ar y safle rhestredig Gradd I, ac yn ystod haf y llynedd cysylltodd perchnogion y gaer â'r coleg i weithio gyda Chymdeithas Cyfeillion Belan.

Dywedodd Ellis: “Mi wnaethon nhw gysylltu â ni i ofyn a fydd gennym ni, a'n dysgwyr, ddiddordeb mewn cydweithio â nhw ar y gwaith adnewyddu, gan ein bod ni’n addysgu Peirianneg Forol ym Mhwllheli.

Mi es i a Phil Masterson (goruchwyliwr y gweithdy) i gyfarfod â Jean a’i mab Chris, sy’n berchen ar y gaer ac yn rhedeg Cyfeillion Fort Belan. Aethon ni am daith o amgylch y gaer ac mi gawson ni ychydig o hanes yr adeilad.

Yn ystod y flwyddyn hon rydym wedi gweithio gyda nhw, ac wedi cael cyfarfodydd gyda swyddog Cadwraeth Gwynedd sy’n gofalu am eiddo rhestredig. Maen nhw wedi rhoi cyngor ar sut i fwrw ymlaen, a beth sydd angen ei wneud o safbwynt peirianneg.

Mi fydd yn brosiect dwy flynedd o hyd, a bydd Fort Belan yn gadael i ni ddefnyddio eu gefail i ddysgu’r dysgwyr am weithio gyda deunyddiau poeth. Mae'n gyfle i'r myfyrwyr ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth mewn sefyllfa go iawn, a'r gobaith ydy y gallwn ni gydweithio rhagor yn y dyfodol.”

Dywedodd Ellis fod y myfyrwyr wedi mwynhau ymweld â'r safle i ddechrau cynllunio'r prosiect, a'u bod yn edrych ymlaen at y gwaith sydd o'u blaenau.

“Mi aethon nhw ati i wneud y lluniadu a’r mesur ar unwaith, gan weithio mewn grwpiau,” meddai. “Pan ddywedais wrthyn nhw eu bod nhw’n mynd i wneud lluniadau CAD, roedden nhw'n awyddus i wneud yn siŵr bod y gwaith lluniadu o'r safon gorau posib!"

Wrth egluro beth fydd y myfyrwyr yn ei wneud, ychwanegodd: “Ar ôl tynnu’r craen yn ddarnau mi fyddan nhw'n mynd ati i lanhau’r rhwd oddi ar y pyst metel ac yn dechrau eu trwsio neu eu disodli. Gallai'n gwaith yma gynnwys creu gwaith metel pwrpasol o’r newydd.

Bydd y dysgwyr hefyd yn ail-wneud y jibiau pren sydd wedi pydru. Yna mi fyddan nhw'n dechrau ail-gydosod y craen a phaentio'r holl gydrannau i'w adfer yn esthetig.

“Maen nhw’n dysgu am waith ar y dociau, ac maen nhw’n gwneud gwaith metel fel rhan o’u huned Perfformio Gweithrediadau Peirianneg, felly mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn dda â hynny, a bydd hefyd yn rhan o’r asesiad ar gyfer eu cymhwyster peintio.”

Bydd dysgwyr Lefel 2 eleni yn parhau â'r prosiect wrth iddynt symud i Lefel 3 ar ôl yr haf, a bydd y rhai sy'n ymuno â'r cwrs ym mis Medi nesaf yn cymryd yr awenau o'r haf nesaf ymlaen.

I ddysgu rhagor am astudio Peirianneg Forol gyda Grŵp Llandrillo Menai, neu i wneud cais, cliciwch yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date