Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Josh yn swydd ei freuddwydion gyda'r heddlu diolch i brentisiaeth gradd

Graddiodd Josh Clancy gyda Gradd Sylfaen mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol o Goleg Llandrillo / Prifysgol Bangor, ac mae bellach yn gweithio yn uned fforensig ddigidol Heddlu Gogledd Cymru

Mae Josh Clancy, a raddiodd yn ddiweddar o Goleg Llandrillo, yn mwynhau “swydd ei freuddwydion” gyda Heddlu Gogledd Cymru, diolch i’w Brentisiaeth Gradd.

Mae'r dyn 26 oed o Abergele bellach yn gweithio yn nhîm fforensig digidol yr heddlu. Cafodd y swydd ar ôl iddo gwblhau ei astudiaethau Lefel 5 yr haf diwethaf.

Gyda phlentyn ifanc i ofalu amdano, daeth Josh o hyd i’r llwybr perffaith at yrfa 'roedd wedi dyheu amdani ers sbel; astudio un diwrnod yr wythnos ar Brentisiaeth Gradd FdSc Seiberddiogelwch Cymhwysol (a ariennir yn llawn) tra’n gweithio fel technegydd TG yn ysgol Rydal Penrhos.

Dywedodd: “Syrthiodd popeth i’w le. Cefais gyfweliad gyda Heddlu Gogledd Cymru ychydig wythnosau cyn i mi gyflwyno fy aseiniad gradd terfynol, a dechreuais gyda nhw ym mis Mehefin.

“Mae’r swydd yn hollol anhygoel, mae fel gwireddu breuddwyd. Mae'n swydd ddiddorol iawn gydag oriau cyfleus, ac maen nhw'n dda iawn gyda gofal plant.

“Dw i'n gweithio ym maes ffonau symudol, felly os ydy ffôn rhywun yn cael ei atafaelu, ein gwaith ni yw mynd i mewn iddo a dod o hyd i’r wybodaeth y mae’r swyddog yn gofyn amdani.

“Does dim angen gradd arnoch chi bob amser i weithio hefo ffonau symudol, ond dw i'n meddwl mai fi oedd yr unig un yn y cyfweliad oedd â gradd, felly dw i'n meddwl mai dyna oedd un o'r rhesymau pam ro'n i'n sefyll allan.”

⁠Dechreuodd Josh yn y coleg yn astudio Technoleg Gwybodaeth Lefel 3, cyn i'w diwtoriaid Emily Byrnes ac Andrew Scott awgrymu prentisiaeth gradd.

“Ro'n i wastad wedi bod eisiau gweithio ym maes gwyddor fforensig ddigidol, ond roedd y cwrs prifysgol agosaf yn Lerpwl,” meddai Josh. “Felly ro'n i’n meddwl bod y radd seiberddiogelwch yn opsiwn da, oherwydd bod gan Heddlu Gogledd Cymru dîm seiberdroseddau hefyd.

“Roedd y cwrs yn wych. Roedd y tiwtoriaid yn hollol wych ac yn ddeall a chydymdeimlo. Mae gen i lawer o barch at Emily ac Andy. Mae Emily wedi bod yn diwtor i fi ers pan o'n i ar y cwrs Lefel 3, roedd hi wastad yn fy ngwthio i, ac roedd Andy yr un fath - wastad yn ceisio cael prentisiaethau i mi.”

Dywedodd Josh fod prentisiaeth gradd yn ddelfrydol ar gyfer ei amgylchiadau, gan ei alluogi i ennill cyflog wrth ddysgu, gan osgoi gorfod talu ffioedd dysgu.

“Dw i’n meddwl mai prentisiaethau gradd yw’r ffordd ymlaen y dyddiau yma,” ychwanegodd. “Rydych chi'n cael pedwar diwrnod yn y swydd, felly rydych chi'n ennill gwybodaeth yn y gweithle yn ogystal â chael addysg yn y coleg.”

Mae prentisiaethau gradd o fudd i gyflogwyr hefyd. Mae'r graddedigion sy'n dod i mewn i'r farchnad swyddi eisoes wedi'u trochi ym myd gwaith ac â'r sgiliau sydd eu hangen yn eu rôl.

Dywedodd Roxanne Kellett, rheolwr adran ffonau symudol a theledu cylch cyfyng uned fforensig ddigidol Heddlu Gogledd Cymru: “Gall dod i mewn i Heddlu Gogledd Cymru fel aelod o’r cyhoedd fod yn dasg anodd, ond roedd gan Josh y wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i gyflawni rôl technegydd symudol yn barod.

“Mae Josh wedi gorfod dysgu dilyn gweithdrefnau gweithredu safonol a’r cod ymddygiad, ond roedd y cyfan yn haws oherwydd ei brofiad yn ei rôl flaenorol. Fo gafodd y sgôr uchaf yn y broses gyfweld o safbwynt ymarferol, felly roedd ganddo’r wybodaeth sydd ei hangen i ymuno â’r uned fforensig ddigidol.”

Pan ofynnwyd iddo am ei gyngor i unrhyw un sy'n ystyried prentisiaeth gradd, dywedodd Josh: “os ydych chi'n ei ystyried yna ewch amdani 100%. Mae wedi fy ngalluogi i gyrraedd lle rydw i eisiau bod mewn bywyd.”

Mae Prentisiaeth Gradd Seiberddiogelwch Cymhwysol Grŵp Llandrillo Menai, a ddyfernir gan Brifysgol Bangor, wedi'i datblygu ar y cyd â diwydiant, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen ar y technegydd rhwydwaith modern i reoli a diogelu systemau cyfrifiadurol. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date