Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli - Hafan (Peirianneg)
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Peirianneg Forol Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi yrfa yn gweithio ym maes trin llongau, ar y dŵr neu ar dir sych.

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddysgu amrywiaeth o sgiliau sy'n bwysig i'r diwydiant ar y tir, yn cynnwys adeiladu cychod, cynnal a chadw cychod a pheirianneg forol. Mae hefyd yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau ymarferol ar y dŵr, a bydd hyfforddiant ar y môr yn elfen allweddol o'ch dysgu.

Mae'r rhaglen yn un ymarferol gyda phwyslais ar ennill sgiliau ymarferol yn y gweithdy ac ar y môr. Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, ac yn cynnal a chadw ac yn gweithio â llongau yn y Coleg ac ar safleoedd eraill.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy a'r dosbarth
  • Gwneud prosiectau
  • Cyfnod ar y môr

Yn y Ganolfan Forol ac Amgylchedd Adeiledig werth £8.2 miliwn sydd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ceir adnoddau arbenigol ar gyfer y diwydiant morol a'r diwydiant adeiladu cychod. Ceir yno hefyd amrywiaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser i ategu'r diwydiant hwn sy'n werth biliynau yn y Deyrnas Unedig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau
  • Arholiadau
  • Gwaith Rhaglen
  • Portffolios
  • Asesiad Ymarferol ar y dŵr gan hyfforddwyr cymwys

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith gan gynnwys, Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Forol.

Gallech ddewis mynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio Technoleg Forol mewn amrywiaeth o sefydliadau. Gallwch fynd ymlaen i astudio ar gwrs gradd mewn meysydd eraill yn cynnwys:

  • HNC Peirianneg Gyffredinol

Ym myd gwaith, bydd y rhaglen yn caniatáu i chi weithio yn y diwydiant morol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r cynnwys swyddogaethau yn y sectorau hamdden a masnachol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi bod o hyd i waith yn lleol ar dir sych, wedi ennill ysgoloriaethau i addysg uwch neu wedi dod o hyd i waith ar longau masnachol mawr, tynfadau, cychod gwaith, llongau ysblennydd a llongau pleser.⁠

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Technoleg Forol

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli

Technoleg Forol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Forol