Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Beirianneg Newydd i fod yn Hwb Mawr i Sgiliau Ynni Cynaliadwy

Ymwelodd Carolyn Thomas AS dros Ogledd Cymru, yn ddiweddar â safle’r Ganolfan Beirianneg newydd sbon gwerth £12.2m ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Wedi’i ariannu’n rhannol drwy gynllun ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu’ Llywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl y rhanbarth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector peirianneg.

Bydd y cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf: o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau creu prototeip 3D a pheiriannau diwydiannol mawr i dorri metel a reolir gan gyfrifiaduron.

Mewn partneriaeth â'r cwmni rhyngwladol RWE Renewables, sy'n rheoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ym Mhrydain, bydd y datblygiad newydd yn cynnwys sefydliad newydd ar gyfer Technoleg Ynni Adnewyddadwy. Nodwedd amlwg o’r adeilad fydd neuadd gwasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt diwydiannol tri llawr o uchder a fydd yn cael ei defnyddio gan weithwyr a phrentisiaid RWE.

Dechreuodd gwaith ar y safle’n ddiweddar yn dilyn dyfarnu contract mawr i Wynne Construction o ogledd Cymru, a disgwylir i’r Ganolfan gael ei hagor ar gyfer addysgu erbyn 2024.

⁠Dywedodd Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo:

“Mae cynnydd trawiadol wedi’i wneud ar y prosiect pwysig hwn – diolch i’n contractwyr Wynne Construction. Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y Ganolfan Beirianneg newydd yn rhoi cyfle gwirioneddol i’r rhanbarth ddatblygu’r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.”

Meddai Carolyn Thomas, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru,

“Roedd yn wych ymweld â Choleg Llandrillo yn y Rhyl i weld y ganolfan ragoriaeth beirianneg newydd yn cael ei hadeiladu. Mae hon yn enghraifft wych o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleuster a fydd yn rhoi’r sgiliau perthnasol i bobl leol a thu hwnt i weithio ar brosiectau adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru a ledled y Byd sydd ar flaen y gad yn y dechnoleg.”

⁠Ychwanegodd, “Roeddwn yn arbennig o falch o glywed am y bartneriaeth gydag RWE ynglŷn â datblygu sgiliau yn y coleg i gynnal y tyrbinau gwynt yma yng Ngogledd Cymru, a chynllun RWE i greu hydrogen gwyrdd a allai ddarparu llwyth sylfaenol pan nad yw’r tyrbinau gwynt yn troi.”

Meddai Dafydd Roberts, a fynychodd ar ran RWE: “Roedd yn fraint cael mynd gyda Carolyn Thomas MS i ymweld â’r cyfleuster Peirianneg newydd hwn, sy’n hollbwysig i RWE wrth i ni geisio diwallu anghenion yr ymgyrch i sero net gyda gweithlu hynod o fedrus.

“Bydd hyn yn cynnwys hyfforddi ein holl brentisiaid technegwyr tyrbinau ar gyfer y DU gyfan mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai yma yn y Rhyl, i’r safonau uchaf posibl.

⁠“Yn ogystal â safleoedd presennol fel Gwynt y Môr, Clocaenog ac eraill ar draws y DU, bydd hyn yn cynnwys safleoedd newydd posibl, megis fferm wynt alltraeth Awel y Môr a datblygiadau yn y dyfodol mewn gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, fydd yn darparu gyrfaoedd ymhell i ganol y ganrif a thu hwnt.”

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.