Myfyriwr Prentisiaeth Gradd yn dod yn agos i'r brig yng ngwobrau gweithgynhyrchu cenedlaethol y DU!
Cydnabuwyd Jamie Roles, a astudiodd ar gyfer prentisiaeth gradd Gwyddoniaeth Data yng Ngrŵp Llandrillo Menai, yn ddiweddar am ei dalent yn rowndiau terfynol "Make UK Manufacturing", lle daeth yn ail allan o gannoedd o gystadleuwyr.
Enillodd Jamie, sydd yn gweithio ar gyfer Airbus yn Broughton, hefyd y wobr Prentis Busnes yn y wobr "Make UK in Wales" o flaen rowndiau terfynol y DU. Gwnaeth gryn argraff ar y beirniaid, a nododd fod gan Jamie yrfa wych o'i flaen. Mae'n amlwg yn mwynhau'r hyn a wna ... does dim amheuaeth bydd yn arwain pobl cyn hir.
Dywedodd Andrew Scott, Arweinydd y rhaglen ar gyfer Prentisiaethau Gradd,
“Dangosodd Jamie agwedd ardderchog at waith yn ei holl astudiaethau yn y coleg, mae ei gyflawniadau yn glod i'w waith caled, da iawn Jamie!"
Ychwanegodd,
"Edrychwn ymlaen at weld beth fydd y cam nesaf yng ngyrfa Jamie".
Mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor, cafodd y radd a gwblhaodd Jamie ei hariannu'n llawn gan y Llywodraeth - heb gost iddo ef na'i gyflogwr.
Mae prentisiaethau gradd yn eich galluogi i astudio am radd i israddedigion neu radd meistr a datblygu eich gyrfa ar yr un pryd.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau gradd a phrentisiaeth, ewch i - https://www.gllm.ac.uk/