Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn Myfyriwr Coleg sydd bellach yn beiriannydd gyda Rolls Royce yn Dychwelyd i Ysbrydoli Myfyrwyr

Dychwelodd cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor sydd bellach yn cael ei gyflogi gan un o gynhyrchwyr ceir moethus gorau’r byd- i gampws peirianneg y coleg yn yr Hafan ym Mhwllheli.

Croesawyd Thomas Morris i'r man lle cychwynnodd ei yrfa beirianyddol. Tra yn ysgol Eifionydd astudiodd Thomas ar gyfer BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg Gyffredinol ochr yn ochr â'i bynciau TGAU. Yna symudodd ymlaen i gwrs Peirianneg Uwch BTEC Lefel 3 yn yr Hafan Pwllheli.

Bellach mae Thomas yn cael ei gyflogi gan Rolls Royce ar y cynllun Prentisiaeth Ymarferol Uwch yn ei adran injan awyrennau masnachol.

Rhoddodd Thomas gyflwyniad dadlennol i fyfyrwyr peirianneg bresennol y flwyddyn gyntaf ar ei brofiadau ers gadael y coleg: o fynd drwy’r broses ddethol gychwynnol yn Rolls Royce, i’r gwaith y mae wedi bod yn ei wneud yn adran Peiriannau Hedfan Masnachol Rolls Royce

Dywedodd Emlyn Evans, Tiwtor Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

“Mae Thomas yn dilyn llwybr gyrfa gyffrous gyda Rolls Royce. Mae staff yr Hafan yn falch o'i gyflawniadau ar ôl derbyn ei hyfforddiant sylfaen mewn peirianneg yma gyda ni yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Pwy a ŵyr, efallai mai ein myfyrwyr presennol ni fydd y genhedlaeth nesaf o beirianwyr i ddilyn yn ôl troed Thomas”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn Peirianneg Gyffredinol yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cysylltwch ag evans12e@gllm.ac.uk neu ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth https://www.gllm.ac.uk/cyrsiau