Academi Ddigidol Werdd
Yn gwella ffyniant yng Ngwynedd a Môn drwy gynyddu gwytnwch, arloesedd a thwf busnesau bach gan eu galluogi i leihau eu hôl troed carbon.
Gwerthuswch.Mentorwch.Datbygwch.Llwyddwch
Astudiaethau Achos
Dewch i weld ein hastudiaethau achos diweddaraf a darganfod sut mae'r Academi Ddigidol Werdd yn helpu busnesau yn Ynys Môn a Gwynedd i leihau eu hôl troed carbon. Gallwch ddarllen ein astudiaethau achos yma.
Y Canllaw Arbedion Gwyrdd
Nod y Canllaw Arbedion Gwyrdd yw eich cynorthwyo i arbed arian trwy gynnig cyngor ynghylch ble y gall camau arbed ynni gynyddu effeithlonrwydd yn y cartref ac yn y gweithle, lleihau eich ôl troed carbon, a chynyddu cynaliadwyedd. Cofrestrwch i gael eich 'Canllaw Cynilion Gwyrdd' rhad ac am ddim trwy glicio yma.

Ydych chi'n fusnes micro neu'n fusnes bach yng Ngwynedd neu Fôn?
Hoffech chi fod yn fwy ecogyfeillgar a lleihau eich ôl troed carbon?
Yna mae'r Academi Ddigidol Wyrdd yma i'ch helpu chi.
Beth yw'r Academi Ddigidol Wyrdd
Mae'r Academi Ddigidol Wyrdd yma i helpu busnesau sy'n gweld gwerth mewn defnyddio technoleg ddigidol newydd, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau.
Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon.
Pwy all fod yn rhan o'r prosiect?
Rhaid i'r busnesau fod wedi'u cofrestru yng Ngwynedd neu Fôn a bod yn fusnesau:
- Micro – hunangyflogedig neu'n cyflogi llai na 10 gweithiwr
- Bach – llai na 50 gweithiwr
Mae nifer y busnesau a gefnogir drwy'r prosiect wedi'i gyfyngu felly'r cyntaf i'r felin fydd hi.
Pam ddylech chi ymuno â'r Academi Ddigidol Wyrdd?
Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda chi i fynd â'ch busnes ar daith arloesi fydd yn eich helpu i:
- Ennill mantais gystadleuol a chael hwb i'ch enw da fel busnes gwyrdd
- Deall eich blaenoriaethau digidol a sero net a pha gamau i'w cymryd
- Addasu'n gyflym i'r cynnydd yn rheoliadau sero net y llywodraeth a’r pwysau gan gontractwyr
- Ehangu eich busnes drwy ddatblygu datrysiadau arloesol newydd i ymuno â'r cynnydd yn y farchnad 'sero net'
- Diwallu'r cynnydd mewn galwadau gan gwsmeriaid am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar
- Cynyddu elw, gostwng costau cynhyrchu a chanfod mesurau sy'n arbed ynni
- Gwella eich sefyllfa yn y gadwyn gyflenwi drwy gynnwys cynaliadwyedd yn eich prosesau caffael
Beth fyddwch chi'n ei gael?
Drwy'r prosiect byddwch yn gallu cael mynediad at gefnogaeth wedi'i ariannu'n llawn gan fentor arbenigol a fydd yn gweithio gyda chi i werthuso ble mae eich busnes chi heddiw.
Bydd yn eich helpu i gynnal asesiad diagnostig sero net o allbwn carbon eich busnes a'ch gweithwyr, gan gynnwys teithio mewn car, defnyddio ynni, gwaredu gwastraff a defnyddio deunyddiau, yn ogystal ag asesiad diagnostig manwl o alluoedd digidol. Bydd hyn yn arwain at adroddiad fframwaith unigol a map i'r busnes.
Yna bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun a fydd yn eich helpu i gael cyllid a hyfforddiant i ymgysylltu'n llwyddiannus â thechnoleg ddigidol a'i defnyddio i leihau eich ôl troed carbon, ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno map ar gyfer eich busnes.
I gael rhagor o wybodaeth
Llenwch y ffurflen isod, neu cysylltwch â'r Academi Ddigidol Wyrdd ar:
- digidol.gwyrdd@gllm.ac.uk
- 08445 460 460
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.
Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnes lleol, a chefnogi pobl i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus
