Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

David yn cipio gwobr Seren y Dyfodol - Criced Cymru

Mae David Owen, myfyriwr yng Ngholeg Menai, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith hyfforddi yng ngwobrau Gwirfoddolwyr Clwb 2023 Criced Cymru.

Enillodd David Owen, myfyriwr yng Ngholeg Menai, wobr Seren y Dyfodol Criced Cymru am waith hyfforddi yng Nghlwb Criced Porthaethwy.

⁠Cyflwynwyd y wobr i David, 16 oed, yn y noson "Gwobrau Gwirfoddolwyr Criced Cymru 2023", a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae ei enw wedi cael ei gyflwyno gan Criced Cymru i'r un categori yn noson wobrwyo Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Mae David, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Hyfforddi ym maes Chwaraeon ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, yn hyfforddi chwaraewyr ym mhob grŵp oedran yn ei glwb lleol, o'r tîm Dan 9 i'r rhai Dan 15.

Bu'n gapten ar drydydd tîm Porthaethwy nifer o weithiau dros yr haf, tîm sy'n llywio chwaraewyr o'r tîm dan 15 oed i dîm y dynion, ac sydd wedi cipio'r safle uchaf yng Nghynghrair Criced Gogledd Cymru - Adran Dydd Sul y Gorllewin.

Yn ogystal â hyn mae David yn chwarae mewn sawl safle gwahanol i'r tîm cyntaf a'r ail dîm ac yn hyfforddi tîm y merched.

Cyflwynwyd y wobr 'Seren y Dyfodol' gan Rachel Warrenger, Swyddog Datblygu Criced Merched gogledd Cymru, mewn seremoni a gynhaliwyd yn ystod gêm ddiweddar rhwng Morgannwg a Derbyshire.

Meddai David: Roedd hi'n brofiad gwych. Roedd gen i bobl yr un oed â mi yn fy helpu i pan oeddwn i'n chwarae i'r timau dan 13 ac 15, felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth tebyg iddyn nhw, a rhoi rhywbeth yn ôl."

Dywedodd Sue Wells, rheolwr ardal Gogledd Cymru: "Mae David yn wirfoddolwr arbennig iawn yng Nghlwb Criced Porthaethwy ac mae wedi gwirfoddoli i redeg rhaglenni criced i bobl ifanc ers tair blynedd erbyn hyn.

Mae'n aelod ymroddedig o'r clwb criced sydd yn barod bob amser i helpu gyda'r timau iau. Yn ogystal â hyfforddi mae'n dyfarnu, ac yn cadw sgôr mewn gemau, i'r adran iau a'r adran hŷn. Mae'r wobr Seren y Dyfodol yn gwbl haeddiannol."

⁠Gobaith David, wedi iddo gwblhau ei gwrs yng ngholeg Menai ydy treulio tymor yn chwarae criced yn Awstralia. Mae hefyd yn chwaraewr rygbi dawnus ac yn cynrychioli tîm ieuenctid Bangor.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, cliciwch yma. Mae ceisiadau yn agor ym mis Tachwedd ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024.