Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyrwraig o Goleg Menai, Nadia-Lin, yn curadu arddangosfa gyntaf oriel

Mae arddangosfa Oriel Sploj yn cynnwys gwaith gan Nadia-Lin yn ogystal â'i chyd-raddedigion sylfaen Celf, Gwenno Llwyd Till a Maisy Lovatt

Mae gwaith Celf gan gyn-fyfyrwyr Coleg Menai, Nadia-Lin, Gwenno Llwyd Till a Maisy Lovatt yn cael ei arddangos mewn oriel newydd sbon sydd dan ofal artistiaid.

Ar ddechrau'r mis hwn lansiwyd Oriel Sploj, ym Machynlleth, gyda'i harddangosfa gyntaf, Floop - sy'n nodi dechrau rhaglen fisol o arddangosfeydd wedi'u curadu a'u trefnu gan wirfoddolwyr yr oriel.

Mae'n cynnwys gwaith gan 17 o artistiaid a ddewiswyd trwy alwad agored ac mae'r waliau wedi eu gorchuddio ag amrywiaeth gyfoethog o arddulliau a safbwyntiau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, ond gyda ffocws cryf ar Ganolbarth a Gogledd Cymru.

Mae Nadia-Lin yn un o guraduron yr arddangosfa. Yn artist gweledol o Gonwy, mae ei gwaith yn tynnu ar ei gwreiddiau yng Ngogledd Cymru, ac mae hi wedi bod yn weithgar mewn prosiectau celfyddydol cydweithredol ac annibynnol ledled y rhanbarth. Mae ei gwaith diweddaraf yn ymchwilio i fyd systemau sain Gogledd Cymru.

Ar ôl cwblhau'r cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai'r haf hwn, sicrhaodd Nadia-Lin le ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, yn astudio Celfyddyd Gain. Mae hi'n cymryd blwyddyn allan i ddatblygu ei sgiliau a'i harbenigedd cyn dechrau ar ei gradd, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel trefnydd digwyddiadau gyda lleoliad priodasau.

Yn arddangosfa Floop, mae hi'n arddangos 'Jan', bywluniad o'r model Jan Williams a gwblhaodd yng Ngholeg Menai. Yn drist iawn bu farw Jan yn gynharach eleni.

Ar hyn o bryd mae Gwenno'n gweithio ar ddatblygu Archif, prosiect ffotograffiaeth ddogfen gymdeithasol sy'n tynnu lluniau o artistiaid yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Graddiodd o'r cwrs Sylfaen Celf yn 2020 cyn ennill BA (Anrh) mewn Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Llundain.

Ers hynny mae hi wedi cynhyrchu a chyfarwyddo ei ffilmiau ei hun, wedi gweithio i'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da, ac wedi bod yn rhan o amryw o arddangosfeydd a phrosiectau creadigol eraill.

Arhosodd Maisy gyda Choleg Menai ar ôl ei chwrs Sylfaen Celf, gan raddio gyda rhagoriaeth y llynedd gyda BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain.

Ers hynny mae hi wedi arddangos ledled Gogledd Cymru, ac mae hi'n un o'r artistiaid sydd i'w gweld yn Archif. Yn gynharach eleni, ymddangosodd Maisy a Gwenno mewn pennod o Y Sîn, cyfres sy'n canolbwyntio ar gelfyddydau cyfoes yng Nghymru ar S4C.

Yn ymuno â Nadia-Lin i guradu Floop mae William Tremlett, artist a gwneuthurwr ffilmiau a fagwyd ym Machynlleth. ⁠ Gyda'i gilydd, maen nhw'n lansio Floop fel y gyntaf mewn cyfres o arddangosfeydd misol gan Oriel Sploj.

Mae Oriel Sploj yn cael ei rhedeg gan tua 20 o artistiaid lleol sydd wedi dod at ei gilydd i sicrhau gofod ar gyfer artistiaid, gan artistiaid. Bydd yr arddangosfeydd misol yn cynnwys arddangosfeydd grŵp, arddangosfeydd thema ac arddangosfeydd unigol, a bydd yr aelodau’n cymryd eu tro i guradu a threfnu.

Gallwch weld arddangosfa Floop tan ddydd Iau, 25 Medi - i drefnu ymweliad cysylltwch drwy anfon e-bost at splojmach@gmail.com. Bydd digwyddiad i gloi'r arddangosfa yn Oriel Sploj ddydd Iau, 25 Medi.

Mae Oriel Sploj yn rhan o Sploj, gofod diwylliant DIY ym Machynlleth sydd dan arweiniad pobl ifanc. Mae amrywiaeth o grwpiau a digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yno, gan gynnwys Radio Dyfi, sinema gymunedol, bar trwyddedig â DJ, a nosweithiau cerddoriaeth byw. I gael gwybod rhagor, ac i ddysgu am arddangosfeydd Oriel Sploj yn y dyfodol, ewch i'r wefan www.sploj.com

Mae'r cwrs Sylfaen Celf wedi ei gynllunio'n benodol i baratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio ym maes Celf a Dylunio. Dysgwch ragor yma, neu ewch i gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography i weld yr ystod o gyrsiau a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date