Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yuliia Batrak yn ennill Medal am Ragoriaeth yn EuroSkills 2025

Dyfarnwyd y wobr i'r dysgwr lletygarwch o Goleg Llandrillo yng nghategori Gwasanaeth Bwyty cystadleuaeth sgiliau fwyaf Ewrop

Dyfarnwyd y Fedal am Ragoriaeth i Yuliia Batrak, myfyrwraig o Goleg Llandrillo, yn EuroSkills 2025 yn Nenmarc.

Roedd Yuliia yn cynrychioli Tîm y Deyrnas Unedig yn y categori Gwasanaethau Bwyty, a derbyniodd y wobr am gyflawni'r safon Ewropeaidd dros y tridiau o gystadlu yn Herning.

Mae'r ferch 19 oed, sy'n byw ym Mae Colwyn, yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaethau Bwyd a Diod ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Lluniau: WorldSkills UK

Yn wreiddiol o Kyiv yn Wcráin, mae Yuliia wedi astudio yn y coleg ers 2022, wedi i'w theulu symud i Ogledd Cymru yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia.

Cafodd ei dewis ar gyfer EuroSkills gan WorldSkills UK fel rhan o baratoadau'r tîm ar gyfer digwyddiad WorldSkills yn Tsieina'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Yuliia, a oedd yn Herning yng nghwmni ei mam Liudmyla a'i chwaer iau Alona: “Mi ddois i o’r Wcráin dair blynedd yn ôl a syrthio mewn cariad â’r Deyrnas Unedig - ac â gwasanaethau bwytai.

"Mae WorldSkills UK wedi rhoi’r cyfle anhygoel yma i mi ddysgu cymaint, a chystadlu ar y llwyfan Ewropeaidd. Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi rhoi'r holl offer ar gyfer yr hyfforddiant, ac wedi fy helpu i gymaint, ac mae fy athrawon, Mike Garner a Glen Hughes, wedi bod mor gefnogol gyda phopeth. Dw i'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy helpu i."

Dywedodd tiwtor personol Yuliia, Mike Garner, darlithydd lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo: “O’r sesiynau cyntaf un a dreuliais gyda Yuliia, ro'n i'n gallu gweld bod ganddi’r ymroddiad a’r ffocws i gyflawni pethau gwych a chael llwyddiant mawr. Mae hi wedi bod ar daith anhygoel hyd yn hyn ac mae mwy i ddod eto.

“Rydw i’n hynod falch o Yuliia a phopeth y mae hi wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ac mae hi wedi mynd trwy'r holl waith caled a’r oriau hir a dreuliodd yn dysgu ac ymarfer, gyda gwên. Da iawn Yuliia, cyflawniad anhygoel!”

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Rydym yn hynod falch o gyflawniad rhagorol Yuliia yn EuroSkills 2025. Mae ei thalent, ei hymroddiad a'i gwydnwch yn ysbrydoliaeth i gyd-ddysgwyr ac yn dyst i'r addysgu a'r gefnogaeth eithriadol yng Ngholeg Llandrillo. Mae'r llwyddiant hwn hefyd yn tynnu sylw at y sgiliau gwych sy'n cael eu meithrin yma yng Ngogledd Cymru.”

Roedd Evan Klimaszewski, myfyriwr o Goleg Menai, hefyd yn cystadlu yn EuroSkills, yn y categori Electroneg.

Mae Evan a Yuliia ill dau yng ngharfan hyfforddi WorldSkills UK ar gyfer y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' yn Shanghai'r flwyddyn nesaf (Medi 22 i 27). Dros y misoedd nesaf byddant yn wynebu cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi a dethol yn eu sgiliau, cyn i un cystadleuydd o bob categori gael ei ddewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn Tsieina.

Roedd Geraint Rowlands a Bryn Jones, sy'n ddarlithwyr peirianneg, hefyd yn Herning gyda thîm y Deyrnas Unedig. Roeddent yno fel arbenigwyr ar y paneli beirniadu electroneg a pheirianneg fecanyddol (dylunio â chymorth cyfrifiadur) yn y drefn honno.

Dros y tridiau o gystadlu yn Herning, hawliodd Tîm y Deyrnas Unedig un Fedal Efydd - a enillwyd gan Patrick Sheerin a Caolan McCartan yng nghategori diwydiant 4.0 - a phum Medal am Ragoriaeth.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date