Morgandie yn Rhannu'r Profiad o Fynd ar Leoliad Gwaith i Dubrovnik
Yn ddiweddar dychwelodd Morgandie Harrold i gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli i rannu'r profiad o gael secondiad chwe mis gyda chwmni gwyliau Sunsail yn Dubrovnik, Croatia.
Ar ôl cwblhau ei chwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Forol ar y campws, treuliodd Morgandie y misoedd rhwng Mehefin a Rhagfyr 2025 yn gweithio i Sunsail yn Dubrovnik, gan reoli 47 o longau pleser.
Yn ei chyflwyniad i'r dysgwyr, pwysleisiodd Morgandie pa mor werthfawr fu’r dysgu ymarferol yn y coleg iddi yn ei gwaith, yn enwedig ei phrofiad gydag injans allanol. "Gwrandewch ar bopeth mae'r tiwtoriaid yn ei ddweud wrthych chi, yn enwedig am injans," meddai wrthynt. "Mi fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch chi yn eich gwaith."
Cychwynnodd taith Morgandie ar ôl iddo wrando ar gyflwyniad tebyg gan Lois o Flaenau Ffestiniog. Roedd Lois hefyd wedi astudio Peirianneg Forol yn yr Hafan cyn treulio tri thymor yn gweithio i Sunsail. Dyna wnaeth gymell Morgandie i ymgeisio am swydd dymhorol ar ôl iddi hithau gwblhau ei chymhwyster Lefel 3 ym Mehefin 2025.
Rhan o ddyletswyddau Morgandie yn Dubrovnik oedd gofalu am 5-6 llong, a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i'r gwesteion. "Roedden ni'n gwirio popeth, o'r drysau a'r colfachau i'r injans a'r darnau atodol, er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn cyrraedd y safonau uchaf," esboniodd. "Roedd y dyddiau trosglwyddo'n hir, ond yn werth yr ymdrech er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwesteion yn cael y profiad gorau posib."
Soniodd Morgandie hefyd am rai o'i huchafbwyntiau personol, fel ymweliad gan ei theulu a mwynhau wythnos ar fwrdd un o'r llongau roedd hi'n gyfrifol amdanynt. Er gwaethaf ambell dasg heriol, fel ymateb i alwad i drwsio toiled llong ar ynys bellennig, roedd y gwaith yn rhoi llawer o foddhad iddi. "Doedd pethau ddim yn fêl i gyd bob amser, ond roedd hynny'n rhan o'r profiad. Ac roedd y sgiliau ddysgais i yn y coleg yn hollbwysig ar yr adegau anodd," meddai.
O ran y dyfodol, mae Morgandie eisoes yn ystyried dychwelyd i weithio i Sunsail y tymor nesaf, gan eu bod yn cynnig cyfleoedd ledled y byd. "Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy. Byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n astudio Peirianneg Forol," meddai. "Rydych chi'n cael cyfle i ddefnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu tra hefyd yn mwynhau tywydd anhygoel mewn lleoliad hudolus."
Canmolodd Elis Morey, Arweinydd y Rhaglen Peirianneg Forol, lwyddiant Morgandie,
"Mae Morgandie a Lois yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gall ein myfyrwyr ei gyflawni. Mae ein cyrsiau yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd ym mhob cwr o'r byd, gan eu bod yn cael y profiad ymarferol sydd ei angen arnynt i lwyddo."
Cewch wybod rhagor am ein cwrs Peirianneg Forol yma.