Myfyrwyr Glynllifon yn Dysgu am Ddyfeisgarwch Amaethyddol yn Agritechnica 2025
Yn ddiweddar aeth myfyrwyr cyrsiau Amaeth a Thechnoleg Diwydiannau'r Tir yng Nglynllifon ar daith addysgol i Agritechnica yn Hannover yn yr Almaen i un o brif ddigwyddiadau peirianneg amaethyddol y byd.
Mae Agritechnica yn denu cynhyrchwyr, amaethwyr, a chontractwyr o bob cwr o'r byd i arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn peirianneg a thechnoleg amaethyddol. Roedd y digwyddiad eleni yn gyfle unigryw i'r myfyrwyr ddysgu am y tueddiadau diweddaraf sy'n dylanwadu ar ddyfodol amaethyddiaeth.
Nid yw llawer o'r cynhyrchwyr oedd yn arddangos yn y digwyddiad yn masnachu yng Nghymru, felly roedd hwn yn gyfle arbennig i'r myfyrwyr gael golwg ar y peiriannau a'r technegau diweddaraf.
Gan fod arbenigwyr ar bob stondin, roedd cyfle hefyd i'r myfyrwyr drafod yr hyn oedd yn cael ei arddangos a dysgu'n uniongyrchol am dechnolegau newydd – yn enwedig ym maes systemau trydan a hybrid. Adlewyrcha hyn bwyslais cynyddol y diwydiant ar gynaliadwyedd a datrysiadau di-garbon.
Yn ogystal ag ymweld â Agritechnica, treuliodd y criw amser mewn dwy fferm laeth ar gyrion Berlin gan gael profiad ymarferol o arferion ffermio modern yn Ewrop.
Ymwelodd y myfyrwyr hefyd â ffatri enfawr Volkswagen yn Wolfsburg sy'n cynhyrchu 2,500 o geir bob dydd.
Meddai Esmor Hughes, Darlithydd Amaethyddiaeth a Pheirianneg Amaethyddol yng Nglynllifon:
"Ar yr ymweliad ag Agritechnica cafodd ein myfyrwyr weld rhai o'r datblygiadau arloesol sy'n trawsnewid amaethyddiaeth. Mae cynnig profiadau o'r fath yn hanfodol wrth i ni baratoi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a thechnegwyr tir yng Nghymru ar gyfer y dyfodol."