Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Menai Motorsport ar wib yn Ras y Cofio

Bu myfyrwyr peirianneg chwaraeon moduro Coleg Menai wrthi'n brysur yn paratoi Peugeot 107 i gystadlu ar gylch rasio Trac Môn ar Ddiwrnod y Cadoediad, ras olaf y car am eleni

Roedd Peugeot 107 Menai Motorsport yn cystadlu yn Ras Coffa British Racing and Sports Car Club a gynhaliwyd ar gylch rasio Trac Môn.

Paratôdd myfyrwyr Coleg Menai o'r adran peirianneg chwaraeon moduro ar gampws Llangefni'r car Peugeot 107 i rasio yn y digwyddiad ar Ddiwrnod y Cadoediad ar gylch rasio Trac Môn.

Cystadlodd y car yn y ras i ennill tlws Clwb Chwaraeon o dan y categori E (ceir gyda chymhareb pŵer i bwysau hyd at ac yn cynnwys 135bhp/tunnell), gan orffen yn seithfed.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys ras ragbrofol 30 munud o hyd, ble roedd cyfle i'r tîm ymarfer seibiau, amseru'r seibiau hynny ac amseru'r car o amgylch y trac.

Yn dilyn hynny, cynhaliwyd y ras 45 munud o hyd ble roedd gofyn i'r car aros yn y mannau seibiant am ddau funud o hyd.

Wedi'r ras ragbrofol, roedd Menai Motorsport yn safle 33 o 35, a gorffennodd y tîm y ras yn safle 22.

Dim ond 22 o'r 35 ras gwblhaodd y ras yn llwyddiannus. Daliodd Menai Motorsport eu tir yn ystod y ras gan gyflawni lapiau, ar gyfartaledd, mewn 2.02 munud.

Cafodd y myfyrwyr brofiadau gwerthfawr iawn drwy gynorthwyo timau eraill ar ddiwrnod y ras.

Dywedodd Endaf Jones, tiwtor o'r adran Chwaraeon Moduro: "Am brofiad! Mi oedd gofyn i ni newid ambell beth ar y car, gwirio'r uchder a'r hongiad a newid ychydig ar y tracio. Mi wnaeth y dysgwyr yn arbennig o dda ac mi weithion nhw'n dda fel tîm.

Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i Jade Developments am eu cymorth dros y penwythnos, yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol, ac am ganiatáu i ddysgwyr weithio ar eu cerbyd Renault Clio 200."

Ychwanegodd ei gyd-diwtor ar y cwrs Chwaraeon Moduro, Iolo Williams: "Roedd yn agoriad llygaid i fod yno dros y penwythnos a bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr ar Ddiwrnod y Cadoediad. Cafodd y dysgwyr brofiadau gwerthfawr iawn ac roedd yn hwb mawr i'w hyder."

Meddai Hywel Rosenthal, Gyrrwr Menai Motorsport a pherchennog garej Star Auto Care, Gaerwen: "Mi gawson ni benwythnos hynod gynhyrchiol. Diolch i'r newidiadau a wnaeth y myfyrwyr mi oedd y perfformiad o'r un safon â'r ras cystadleuaeth CityCar yn gynharach yn y flwyddyn, ac roedd hynny'n deimlad braf iawn.

Aeth y car o amgylch y trac am dros awr gan gadw amser cyson, yn wahanol i'r 13 car na lwyddodd i orffen y ras. Diolch yn fawr iawn i fyfyrwyr a staff Coleg Menai am eu cefnogaeth ac i'r holl noddwyr am ein cynorthwyo i gael y car yn barod ar gyfer hyn. Ymlaen i'r flwyddyn nesaf."

Yn gynharach yn y flwyddyn trawsnewidiwyd y Peugeot i fod yn gerbyd rasio ar gyfer Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr a oedd yn rhan o Bencampwriaeth Cwpan CityCar ar Drac Môn.

Daeth y tîm i'r brig o blith colegau Cymru, gan guro Coleg Gwent.

Ras y Cofio oedd digwyddiad olaf y calendr rasio i Menai Motorsport ac mae'r tîm yn paratoi'r cerbyd ar gyfer rasys y tymor nesaf a fydd yn dechrau ym mis Mawrth 2024.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3 yng Ngholeg Menai, cliciwch yma.