Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Glynllifon yn ymweld ag un o sioeau amaethyddol mwyaf y byd

Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr Amaethyddiaeth a Pheirianneg Coleg Glynllifon ar ymweliad i Agritechnica yn Hanover, yr Almaen i ddysgu gan rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r maes technoleg amaethyddol.

Mae Agritechnica yn sioe fyd-eang ar gyfer y diwydiant peiriannau amaethyddol ac mae’n fforwm i drafod materion yn ymwneud â chynhyrchu cnydau at y dyfodol.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y myfyrwyr gyfle euraidd i ddysgu gan awdurdodau yn y diwydiant amaethyddol rhyngwladol a thrafod materion pwysig yn y maes technoleg amaethyddol.

Ystyrir y sioe yn un o brif ddigwyddiadau'r sector amaethyddol.

Dywedodd Esmor Wyn Hughes, Arweinydd Maes Rhaglen Peirianneg yn y Coleg: “Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i’n myfyrwyr yn rhan annatod o genhadaeth a gwaith y Coleg.

“Mae Agritechnica yn fforwm hynod o bwysig i ni ddysgu am yr heriau sy’n ein hwynebu, ac yn bwysicach na dim, i ni ddysgu am y math o dechnoleg sydd ar gael i ni allu mynd i’r afael â’r heriau hynny yn y dyfodol.”