Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lydia, Osian ac Eluned yn mynd ar gwrs Ysgrifenwyr Ifanc

Myfyrwyr ail flwyddyn Lefel A yn rhannu eu profiadau ar ôl cael eu noddi gan Glwb Rotari Pwllheli

Yn ddiweddar, cafodd tri myfyriwr Lefel A o Goleg Meirion-Dwyfor eu dewis i fynd ar gwrs Ysgrifenwyr Ifanc yn Nhŷ Newydd.

Bu Lydia Matulla, Osian Thomas ac Eluned Lane yn mireinio eu sgiliau yn y ganolfan ysgrifennu creadigol yn Llanystumdwy, ger Cricieth.

Arweiniwyd y cwrs gan y bardd Vicky Morris, a fagwyd yn Abergele, a Russ Litten, sydd wedi ysgrifennu ar gyfer teledu, ffilm, radio a llwyfan.

Treuliodd Lydia, Osian ac Eluned y penwythnos yn datblygu eu sgiliau ac yn dysgu technegau newydd i wella eu gwaith.

Ar ôl dychwelyd i'r Coleg, gwnaethant arwain dosbarth i rannu'r hyn roeddent wedi'i ddysgu â'u cyd-ddisgyblion. Buont hefyd yn rhannu eu profiadau mewn cyfarfod o Glwb Rotari Pwllheli, a oedd wedi talu i’r tri myfyriwr ail flwyddyn fynd ar y cwrs.

Dywedodd Osian: “Fe wnaeth y cwrs Ysgrifenwyr Ifanc agor fy llygaid i ffyrdd newydd o fynd ati i ysgrifennu, yn ogystal â gwneud i deimlo'n fwy hyderus am fy ngwaith fy hun.

“Mae gan Dŷ Newydd awyrgylch hamddenol sydd wir wedi fy annog i ysgrifennu’n rhydd – boed yn y tŷ ei hun, yn yr ardd neu yn fy ystafell fy hun yn ystod yr wythnos.

“Roedd y staff yn hyfryd ac roedd y ddau diwtor bob amser ar gael i helpu. Diolch i Glwb Rotari Pwllheli, mi ges i amser gwych yn dysgu sgiliau newydd a ffyrdd gwahanol o werthfawrogi llenyddiaeth; bydd hyn yn help mawr i mi ar fy nghwrs. Heb anghofio am y bwyd gwych gan Tony y cogydd!”

Mae’r Clwb Rotari wedi bod yn noddi dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor i fynd ar y cwrs ysgrifennu penwythnos o hyd ers dros ddegawd.

Caiff arian a godir bob blwyddyn ar y Fflôt Sion Corn ei ddefnyddio i gefnogi pobl ifanc yr ardal. Y gobaith yw y bydd y cydweithio hwn yn parhau'r flwyddyn nesaf.

Bydd Fflôt Sion Corn ar daith ledled Pen Llŷn yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen Facebook Clwb Rotari Pwllheli.

Diddordeb mewn astudio pynciau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.