Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Glynllifon i arddangos manteision dull blaengar o dyfu cnydau

Bydd gweithdy hydroponeg yn cael ei gynnal yng ngholeg diwydiannau'r tir yng Nglynllifon ar ôl i'r myfyrwyr a'r staff dreialu'r dull gwyrdd a chost effeithiol hwn o gynhyrchu bwyd

Gwahoddir ffermwyr a thyfwyr bwyd i weithdy yng Ngholeg Glynllifon fis nesaf a fydd yn arddangos manteision defnyddio hydroponeg i dyfu ffrwythau a llysiau.

Gwyddor tyfu planhigion heb ddefnyddio pridd yw hydroponeg, gan yn hytrach eu bwydo

â halwynau mwynol wedi'u hydoddi mewn dŵr.

Ers 2020, mae myfyrwyr a staff o Goleg Glynllifon wedi bod yn treialu uned hydroponeg VF 5207, sef system o dyfu cnydau ar silffoedd wedi'u pentyrru.

Yn ystod y cyfnod prawf maent wedi llwyddo i dyfu 11 o gnydau gwahanol – letys, berwr y dŵr, coriander, persli, nasturtiums (blodau bwytadwy), mefus, pak choi, letys roced, sbigoglys, cêl a chêl Ethiopia.

Roedd yr amser rhwng tyfu a chynaeafu yn amrywio o gyn lleied â 10 diwrnod ar gyfer coriander, i hyd at 30 diwrnod ar gyfer sbigoglys, cêl a mefus.

Bydd Coleg Glynllifon yn rhannu ei ganfyddiadau â ffermwyr a thyfwyr bwyd mewn gweithdy undydd, a ariennir gan Brosiect HELIX sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Cynhelir y gweithdy yn y coleg ddydd Mawrth 12 Rhagfyr.

Mewn partneriaeth ag arbenigwyr eraill yn y maes, bwriad y gweithdy yw trosglwyddo’r wybodaeth, y sgiliau a’r buddion a ddysgwyd o’r treial i’r sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a bwyd.

Bydd y pynciau a drafodir ar y diwrnod yn cynnwys:

  • Coleg Glynllifon a Hydroponeg
  • Yr elfennau technegol o ddefnyddio hydroponeg i dyfu ffrwythau a llysiau
  • Yr elfennau economaidd a marchnata sy'n gysylltiedig â chynnal menter hydroponeg hyfyw a chynaliadwy
  • Diogelwch bwyd a phecynnu cnydau hydroponeg
  • Ymweld â Fferm Cwm yr Wyddfa sy'n cynhyrchu cnydau hydroponeg yn fasnachol

Gellir defnyddio hydroponeg i dyfu unrhyw blanhigyn ond mae'r dull yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gynhyrchu cnydau tŷ gwydr fel letys, micro-gnydau gwyrdd, perlysiau, tomatos, ciwcymbrau, sbigoglys, pupurau, ac amrywiaeth o flodau gwahanol.

Un o fanteision hydroponeg yw'r gallu i dyfu planhigion yn unrhyw le – mewn twnnel polythen, tŷ gwydr, neu mewn adeiladau fferm gwag. Yn ogystal, gellir tyfu cnydau drwy gydol y flwyddyn, gan gael gwell rheolaeth dros amodau tyfu.

Ymhlith y manteision eraill mae gwell defnydd o ddŵr a maetholion, dim angen chwynnu, dim angen cylchdroi cnydau, a chynaeafu haws – sy'n golygu mwy o effeithlonrwydd cyffredinol wrth gynhyrchu cnydau.

Yn ystod y treial yng Ngholeg Glynllifon, tyfwyd planhigion dan do trwy gydol y flwyddyn mewn tri lleoliad gwahanol, heb fod angen gwresogi nac awyru.

Tua thair awr yr wythnos yn unig o lafur oedd ei angen, ac roedd hynny'n wir pa bynnag gnwd oedd yn cael ei dyfu.

Roedd y tasgau’n cynnwys gwiriadau dyddiol o’r lefel pH a'r maetholion oedd ar gael i'r planhigion o'r gymysgedd hydawdd, gofalu nad oedd rhwystrau yn y pibellau a chadw golwg ar dyfiant ac iechyd y planhigion.

Roedd y cynaeafu'n hawdd, a'r rhan fwyaf o'r amser yn mynd ar lanhau'r hambyrddau a'r system yn drylwyr ar ôl gorffen, gan fod angen hanner diwrnod i lanhau a

sterileiddio'r uned hydroponeg.

Esboniodd Rhodri Owen, Rheolwr Ffermio, Coedwigaeth ac Arloesi yng Ngholeg Glynllifon: “Mae’r uned hydroponeg eisoes yn rhoi canlyniadau da. Gan ei fod yn amgylchedd rheoledig mae yna lawer o fanteision, gan gynnwys amseroedd cynhyrchu gwell a mwy o gynnyrch.”

Meddai Wyn Davies, Cynghorydd Amaethyddol yng Ngholeg Glynllifon: “Ar gyfer busnesau garddwriaeth a busnesau bwyd-amaeth sefydledig, gall hydroponeg fod yn fenter ‘ychwanegol’ ac yn ffynhonnell arall o incwm, yn ogystal â chyfle i arallgyfeirio.

“Fel arall, mae hydroponeg yn addas fel busnes cychwynnol ar gyfer y rhai y mae'r tir sydd ganddynt i'w drin yn gyfyngedig.

“Yn wir, does dim angen tir ar gyfer hydroponeg; dim ond ystafell (adeilad fferm gwag, garej neu ystafell sbâr yn y tŷ) i dyfu’r planhigion heb bridd.

“Oherwydd bod posib tyfu ffrwythau a llysiau trwy gydol y flwyddyn, gall fod yn ffynhonnell reolaidd o incwm bob mis. Ar ben hynny, mae'n ddull gwyrdd, gan fod planhigion yn defnyddio llai o ddŵr a maetholion i dyfu mewn amgylchedd rheoledig lle nad oes chwyn, gan oresgyn ffactorau daearyddol megis uchder a thywydd.

“Mae gan hydroponeg y gallu i fod yn system gynhyrchu fwy effeithlon ac ymarferol o dyfu ffrwythau a llysiau heb bridd. Bydd y gweithdy yn edrych ar y prif heriau technegol, yn ogystal â'r agweddau economaidd a marchnata sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes hydroponeg hyfyw a chynaliadwy.

“Bydd hyn yn cael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â thrwy arddangosiad ymarferol ac ymweliad â menter hydroponeg fasnachol.”

Roedd y treial hydroponeg yng Ngholeg Glynllifon yn rhan o brosiect Tech Tyfu – Menter Môn, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i'r gweithdy ar 12 Rhagfyr, cofrestrwch yma.