Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pleidleisiwch am Brentis y Flwyddyn gogledd Cymru

Mae Busnes@LlandrilloMenai a Chonsortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai bellach wedi lansio ei Wobrau Prentisiaethau Gogledd Cymru blynyddol, ac mae'r cyfnod pleidleisio i goroni Prentisiaid mwyaf talentog gogledd Cymru nawr ar agor.

Mae’r gwobrau blynyddol, a noddir gan Grŵp Rhyngwladol Babcock, yn dathlu grym cynllun Prentisiaeth Llywodraeth Cymru i yrru busnesau yn eu blaen drwy recriwtio a hyfforddi pobl a datblygu a meithrin eu talent yn y gweithle.

Mae 13 o wobrau Prentis y Flwyddyn ar gael i’w hennill mewn meysydd mor amrywiol â chyfrifeg, cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, diwydiannau’r tir yn ogystal â’r llwybrau prentisiaeth traddodiadol fel adeiladu a pheirianneg.

Ewch i gwobrau.gllm.ac.uk i ddysgu rhagor am yr ymgeiswyr ac i bleidleisio - mae'n broses syml a fydd ond yn cymryd ychydig funudau.

Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a gynhelir rhwng 5 a 11 Chwefror.