Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nonconformist – llyfr newydd y darlithydd a’r awdur, Jane Parry

Mae Jane Parry, Darlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai'n dathlu lansiad ei llyfr newydd

Ceir hanes cyndeidiau Jane yn ‘Nonconformist’ ac mae'n canolbwyntio ar yr arloeswr crefyddol Wiliam Pritchard wedi i Jane ganfod rhagor am ei hanes ar ôl iddi symud i Sir Fôn o Lydaw.

Mae'r llyfr yn tywys darllenwyr ar daith drwy dirwedd ac iaith ac yn cloi gyda'i myfyrdodau am Ynys Môn a gogledd Cymru.

Bydd hi'n trafod ei llyfr, ‘Nonconformist’, yn ystod y lansiad swyddogol yn Siop Lyfrau Palas Print, Caernarfon ar 9 Medi a hefyd ar raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru nos Lun, 4 Medi rhwng 7pm a 9pm.

Mae tipyn o sôn am y llyfr ffeithiol creadigol yn barod - ond dim ond trwy gyd-ddigwyddiad gwnaeth Jane ddod i wybod am ei gwreiddiau Cymreig oedd yn gwbl anhysbys iddi cyn hynny.

Wedi iddynt symud i Landrygarn ger Trefor yng nghanol Ynys Môn, cafodd Jane wybod ei bod yn byw drws nesaf i'r tŷ ble roedd ei thaid yn byw, a bod ei chyndeidiau wedi'u claddu yn y fynwent sydd ganllath o ddrws ei thŷ.

"Yn 2011, mi gymerais gyfnod sabothol a symud i fyw yn Llydaw," dywedodd Jane, sydd wedi gweithio fel darlithydd yng Ngholeg Menai ers 20 mlynedd. "Ond roedd rhaid i ni adael a dod o hyd i rywle yng ngogledd Cymru yn sydyn iawn, ac mi gyrhaeddon ni Landrygarn.

"Ar ôl tua blwyddyn o fyw yno daeth cnoc ar y drws ac mi gyflwynodd dynes ei hun fel fy hen fodryb Maxie. Roedd hi'n meddwl ein bod ni wedi dewis y tŷ oherwydd ei hanes, a hi ddywedodd bod tad fy nhad wedi byw yn y tŷ mawr y drws nesaf."

Dysgodd Jane mai Cymraeg oedd iaith gyntaf ei thaid - ac ysgogodd hynny hi i ymchwilio i weld sut collwyd yr iaith o fewn ei theulu.

Meddai: "Roedd fy nhaid yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a doeddwn i ddim yn deall pam nad oedd fy nhad yn siarad yr iaith. Roedd fel pe bawn i'n darganfod hanes fy nheulu o'r newydd, felly mi wnes i ragor o ymchwil."

Daeth o hyd i restr o enwau a dyddiadau oedd yn arwain yn ôl at ei chyndeidiau ym Mhen Llŷn - a Wiliam Prichard (1702 - 1773) yn benodol, Anghydffurfiwr enwog a orfodwyd i adael Pen Llyn am Ynys Môn ar ôl sefydlu ysgolion cysylltiedig â chapeli Cymraeg.

"Roedd yn berson arbennig yn y gymuned grefyddol Cymraeg," meddai Jane. "Roedd yn arloeswr yn y mudiad Annibynnol a wnaeth gynorthwyo i sefydlu ysgolion oedd yn gysylltiedig â'r capeli. Ond roedd hynny yn groes i sefydliad Anglicanaidd yr oes honno.

"Roedd ei fywyd yn llawn drama - cafodd ei erlyn o'i gynefin, Llangybi ym Mhen Llŷn, oherwydd y ddadlau ynghylch ei ddaliadau crefyddol.

"Mae rhan helaeth o'r llyfr yn trafod ei fywyd a sut cafodd ei erlid gan offeiriaid Anglicanaidd, ond mae hefyd yn mynd â ni o'r gorffennol i'r presennol, ac yn myfyrio ar ecoleg fodern Ynys Môn a'r iaith Gymraeg."

Mae Jane yn addysgu ar y cwrs gradd sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai yn dilyn cyfnod o ddylunio llyfrau i'r BBC. ‘Nonconformist’ ydy ail lyfr Jane, cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf 'Lessons in Impermanence' gan Parthian yn 2014.

I weld rhagor o wybodaeth am lansiad Nonconformist a sut i brynu copi, ewch i www.janeparry.co.uk neu anfonwch neges e-bost at Palas Print ar siop@palasprint.com

Bydd hi'n trafod ei llyfr, Nonconformist, gyda Nici Beech yn ystod y lansiad swyddogol yn Siop Lyfrau Palas Print, Caernarfon, dydd Sadwrn 9 Medi am 3pm. Mi fydd hi hefyd yn cael ei chyfweld am y llyfr ar raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru nos Lun, 4 Medi rhwng 7pm a 9pm.

  • Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg ar gyfer 2023/24. I wybod rhagor am y cyrsiau celf a dylunio yng Ngholeg Menai a Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.