Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Kyle a Nathan i gystadlu mewn cystadleuaeth papuro genedlaethol

Mae prentisiaid Peintio ac Addurno yn mynd i Doncaster i brofi eu sgiliau yn erbyn y gorau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig

Mae dau ddysgwr o Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yng nghystadleuaeth Prentis Papuro y Flwyddyn yn Doncaster ddydd Mawrth nesaf (Mehefin 24).

Bydd Kyle Williams a Nathan Evans yn profi eu sgiliau papuro yn erbyn prentisiaid o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth y Gymdeithas Peintio ac Addurno (PDA).

Mae'r ddau yn dilyn prentisiaethau Lefel 3 Peintio ac Addurno drwy Busnes@LlandrilloMenai, gan astudio un diwrnod yr wythnos ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Yn Doncaster yr wythnos nesaf, bydd y ddau yn wynebu her papuro wal chwe awr o hyd am gyfle i ennill gwobrau gan noddwr y gystadleuaeth, Brewers Decorator Centres.

Bydd yr enillwyr a’r rhai sy’n dod yn ail yn cael eu gwahodd i dderbyn eu gwobrau fel rhan o ddigwyddiad rhwydweithio cenedlaethol a chinio gala’r PDA.

Yn ddiweddar, cystadlodd Kyle hefyd yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Peintio ac Addurno’r PDA yng Nghymru, a gynhaliwyd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Disgrifiodd y gystadleuaeth fel “profiad da”, tra dywedodd Nathan ei fod yn mwynhau ei brentisiaeth gan “nad oes dau ddiwrnod yr un fath”.

Hoffet ti weithio yn y diwydiant adeiladu? Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf o gyrsiau addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru, o Lefel 1 hyd at lefel Gradd, gan gynnwys prentisiaethau. Dysga ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date