Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noson wobrwyo Coleg Menai yn cydnabod dysgwyr rhagorol

Cynhaliodd y coleg Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr 2024/25 ar ei gampws ym Mangor i ddathlu llwyddiant y myfyrwyr hynny sydd wedi dangos rhagoriaeth yn ystod y flwyddyn

Dathlodd Coleg Menai lwyddiant myfyrwyr rhagorol 2024/25 yn ei Seremoni Flynyddol i Wobrwyo Cyflawnwyr.

Yn y seremoni ar gampws Bangor cyhoeddwyd mai Connie Whitfield oedd 'Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn', tra cafodd 15 o'i chyd-fyfyrwyr hefyd wobr am ragori yn eu meysydd rhaglen (mae rhestr lawn o'r enillwyr i'w gweld isod).

Mwynhaodd yr enillwyr araith gan Carmen Smith – cyn-fyfyriwr o Goleg Menai ac aelod ieuengaf erioed Tŷ'r Arglwyddi – wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau.

Bob blwyddyn, gwahoddir darlithwyr o bob maes pwnc i enwebu myfyrwyr am wobr, a rheolwr y maes rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno.

Yn y seremoni cyflwynir tlws i bob enillydd, cyn cyhoeddi enw Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn – a ddewisir gan y Pennaeth – ar ddiwedd y noson.

Yn y seremoni nos Iau cyflwynodd Pennaeth Coleg Menai, Dr Siôn Peters-Flynn, wobr Cyflawnwr y Flwyddyn a thaleb gwerth £200 i Connie sy'n fyfyriwr yn yr adran beirianneg.

Disgrifiodd Dr Peters-Flynn Connie fel “myfyriwr sydd wedi dangos ymroddiad, aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth eithriadol”, gan dynnu sylw at y cystadlaethau sgiliau cenedlaethol y cymerodd ran ynddynt a'i gwaith gyda phrosiect ynni llanw Morlais – lle'r oedd “yn rhan allweddol o lwyddiant y tîm”.

Yn ogystal, derbyniodd Connie wobr Cyflawnwr y Flwyddyn ei maes rhaglen, yn ogystal â gwobr rhwydwaith leol y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).

Ymysg enillwyr eraill y meysydd rhaglen roedd Casi Evans, sydd wedi chwarae pêl-droed i dîm dan 19 Cymru (Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus) a Lee Morris (Mynediad i Addysg Uwch).

⁠Mae Casi ar ei ffordd i ennill graddau rhagorol ar ei chwrs Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a hi sgoriodd farciau uchaf ei grŵp eleni am ffisioleg – gan gyflawni'r cyfan tra hefyd yn hyfforddi gyda thîm Blackburn Rovers ac yn chwarae ar fenthyg i Halifax. Mae hi hefyd wedi cael ei dewis i fod yn rhan o sgwad Ynys Môn ar gyfer Gemau'r Ynysoedd yn Orkney fis nesaf (12-18 Gorffennaf).

Enwebwyd Lee gan ei gyd-fyfyrwyr yn ogystal â'i diwtor i ddiolch iddo am ei gefnogaeth i eraill, ac am gyrraedd y brig yn academaidd. Llwyddodd i ennill 45 credyd ar lefel rhagoriaeth, ac roedd bob amser yn fwy na pharod i helpu eraill i gyflawni eu potensial.

Yn y seremoni, cyflwynodd Dr Peters-Flynn gapiau i'r myfyrwyr oedd wedi cynrychioli Cymru mewn chwaraeon yn ystod y flwyddyn academaidd. ⁠Y myfyrwyr oedd: Byron Davis, Morgan Davies, Casi Evans (pêl-droed), Saran Griffiths (rygbi), Ffion Humphreys (nofio) a Noa Vaughan (traws gwlad).

Cyflwynwyd gwobrau hefyd er cof am y cyn-fyfyrwyr o Goleg Menai, Chloe Bidwell a Rhun Jones.

Wrth agor y seremoni, dywedodd Dr Peters-Flynn: “Fi sy'n cael y fraint o gyflwyno'r gwobrau nodedig hyn i'r myfyrwyr sy'n cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad dros y deuddeg mis diwethaf.

“Mae'r enillwyr heno 'ma wedi cael eu henwebu am eu bod yn fyfyrwyr sydd wedi bod yn barod i fynd yr ail filltir, wedi goresgyn rhwystrau neu wedi rhagori yn eu pynciau. Dyna sy'n gwneud y gwobrau hyn yn rhai arbennig iawn ac mae hi'n fraint cael eu cyflwyno.”

Y siaradwr gwadd oedd Carmen Smith, a ddilynodd y cwrs Lefel 3 mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Menai rhwng 2013 a 2015. ⁠Ers y llynedd, hi yw'r aelod ieuengaf erioed i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, dan deitl ‘Y Farwnes Smith o Lanfaes’, ar ôl y pentref ym Môn lle magwyd hi.

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Menai 2024/25:

Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn / y wobr Beirianneg / gwobr rhwydwaith leol IET Connie Whitfield

Gwobr Goffa Rhun Jones (Peirianneg Cerbydau Modur): Mackenzie Diggons

Gwobr 'Anelu at y Sêr' Chloe Bidwell (Adeiladu): Tiago Coelho

Mynediad i Addysg Uwch: Lee Morris

Lefel A (Gwyddoniaeth): Lois Jones

Celf a Dylunio⁠: Mali Smith

ESOL: Kateryna Romaniuk

⁠Celfyddydau Mynegiannol: Jessica Jones

⁠Gwallt a Harddwch: Alicja Basha

Iechyd a Gofal gyda Gofal Plant: Corwen Olsen

Lletygarwch ac Arlwyo: Sam Lee

Dysgu Gydol Oes: Siôn Wyn Jones

Cyfryngau, Datblygu Gemau a TG:⁠ Siôn Tegwyn Jones

Sgiliau Bywyd a Gwaith: Jake Fenney

Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: Casi Evans

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Erin Williams

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date