Myfyrwyr peirianneg yn ymweld â gwneuthurwr rhyngwladol
Cyflwynodd y dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor geir rasio F1 mewn Ysgolion i FAUN Trackway Limited er mwyn diolch i'r cwmni am ei gefnogaeth yn y gystadleuaeth eleni
Yn ymweliad diwydiannol olaf y flwyddyn academaidd, cafodd myfyrwyr peirianneg o Goleg Meirion-Dwyfor gyfle i weld beth oedd yn digwydd y tu ôl i'r llenni yng nghwmni rhyngwladol FAUN Trackway Limited.
Cyflwynodd y dysgwyr geir rasio F1 mewn Ysgolion i'r cwmni i ddiolch iddo am noddi timau Loop Racing a Cymru Speedsters yn y gystadleuaeth eleni.
Mae FAUN Trackway Limited yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu systemau aml-dirwedd a ddefnyddir ledled y byd gan luoedd milwrol a diwydiannau eraill.
Yn ddiweddar, ymwelodd Keegen Vidamour, Tom Williams, Jordan Piper, Ben Griffith a Jac Fisher â'r ffatri yn Llangefni, ar ôl ymchwilio i'r cwmni fel rhan o'u cwrs Lefel 3 BTEC mewn Astudiaethau Peirianneg Uwch.
Croesawyd y myfyrwyr i'r safle gan Gareth Williams, rheolwr peirianneg a gweithrediadau, Gwyn Parry, rheolwr cynhyrchu, Ellie Roberts, cydlynydd marchnata, a Rhodri Farrer, peiriannydd mecanyddol.
Cafodd y myfyrwyr fynd ar daith o amgylch FAUN Trackway Limited, gan weld sut mae systemau trac symudol yn cael eu cynhyrchu i'w defnyddio'n gyflym gyda thryciau milwrol, llwythwyr telesgopig a cherbydau arbenigol eraill.
Dangosodd Gwyn Parry gamau'r broses a ddilynir gan grefftwyr ar y safle i ffabrigo, cydosod, gorchuddio a phecynnu'r eitemau'n barod i'w dosbarthu i gwsmeriaid ledled y byd. Yn ystod yr ymweliad hefyd rhoddodd Gareth Williams gipolwg diddorol i'r myfyrwyr ar y prosiectau amrywiol sy’n digwydd ar safle Llangefni.
Yna cafodd y myfyrwyr weld y cynnyrch terfynol yn cael ei osod ar Mercedes-Benz Arocs, cerbyd mawr cadarn a phwerus.
Ar ddiwedd y daith, dychwelodd y myfyrwyr i'r ystafell fwrdd, lle cyflwynodd Jac a Jordan eu ceir rasio F1 mewn Ysgolion i Gareth Williams.
Cyflwynodd Jac gar ar ran tîm Loop Racing, a enillodd y dosbarth proffesiynol yng nghystadleuaeth Gogledd Cymru ac a aeth ymlaen i gynrychioli Coleg Meirion-Dwyfor yn rownd derfynol y DU.
Cyflwynodd Jordan y car a wnaed gan y Cymru Speedsters, a chyflwynodd Keegan yr allweddellau FAUN Trackway Limited a wnaeth fel nwyddau hyrwyddo ar gyfer ei dîm i'r holl weithwyr.
Mae'r ddau gar bellach yn cael eu harddangos yn ystafell fwrdd FAUN Trackway, ynghyd â model o system symudedd daear ganolig y cwmni wedi'i osod ar gerbyd 4x4 penfflat.
Meddai Gareth Williams: “Rydyn ni'n falch o groesawu'r myfyrwyr yma a chael dangos ein cyfleusterau a'n cynhyrchion. Roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw at ddefnydd ymarferol peirianneg mewn amgylchedd gweithgynhyrchu go iawn.
“Gobeithio bod y myfyrwyr wedi dysgu ychydig am y prosesau, y technolegau, a'r atebion arloesol rydyn ni'n eu darparu. Mae ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr bob amser yn werth chweil, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi eu haddysg a'u datblygiad.”
Cystadleuaeth STEM i ysgolion a cholegau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yw F1 mewn Ysgolion ac mae Coleg Meirion-Dwyfor yn cymryd rhan ynddi bob blwyddyn.
Defnyddia'r timau Fusion 360, pecyn cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur, i ddylunio eu ceir, cyn eu gweithgynhyrchu ar beiriant melino CNC Denford.
Yna maen nhw'n rasio'r ceir bedair gwaith dros drac gwastad, 20 metr o hyd, yn rowndiau rhagbrofol Gogledd Cymru, gan gyrraedd cyflymder o dros 35 milltir yr awr wrth geisio ennill eu lle yn y rownd derfynol.
Rhaid i'r timau hefyd sicrhau nawdd gan fusnesau lleol, gan ddangos bod ganddynt graffter busnes a gallu i farchnata. Cânt eu beirniadu nid yn unig ar sail cyflymder rasio eu car, ond hefyd ar sail eu cyflwyniad llafar i'r beirniaid a'u portffolios peirianneg a menter.
Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn rhan annatod o'r cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol ar gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli. Mae hefyd yn rhan o ddarpariaeth ysgolion 14-16 y coleg sy'n cefnogi ysgolion uwchradd lleol, gyda thimau'n cystadlu ar y lefel mynediad.
Meddai Emlyn Evans, arweinydd rhaglen y cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg a'r ddarpariaeth 14-16: “Mae sefydlu timau, a gweithredu fel cwmni bach newydd yn golygu cryn ymdrech gan y myfyrwyr. Maen nhw'n codi arian, yn marchnata eu tîm, yn dylunio ac yn cynhyrchu'r ceir rasio ac yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Heb gefnogaeth ein noddwyr, fydden ni ddim yn gallu rhoi'r cyfle gwych yma i'r myfyrwyr.
“Mae FAUN Trackway Limited wedi cefnogi timau Cymru Speedsters a Loop Racing eleni. Roedd yn gyfle gwych i ni allu cyflwyno'r modelau i Gareth a'i gydweithwyr yn Faun Trackway Limited i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth.”
Dysgwch ragor am y cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol yma. Mae'r broses dderbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn agored ar hyn o bryd. Os ydych chi'n Beiriannydd ifanc ac am fod yn rhan o dîm F1 mewn Ysgolion Coleg Meirion-Dwyfor yn 2026, mynegwch eich diddordeb trwy wneud cais, neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â evanse12e@gllm.ac.uk