Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mae'n Wythnos Addysg Oedolion!

Mae’n Wythnos Addysg Oedolion rhwng 20 a 26 Medi, a ledled Cymru mae Dysgu Gydol Oes yn cael ei ddathlu.

Gall addysg oedolion ehangu gorwelion, agor drysau a dod â chi i gysylltiad â phobl newydd. Dyma eich cyfle i ddechrau o'r newydd os ydych yn chwilio am gyfeiriad newydd, neu awydd gwella eich sgiliau neu'ch cyfleoedd gwaith. Neu efallai eich bod am gael cyngor ac arweiniad ar gymhwyster, neu am ddysgu rhywbeth gwahanol.

Drwy gydol y flwyddyn mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser a dosbarthiadau nos, ar-lein ac ar ei gampysau gwahanol. Dysgwch ragor am eich cyrsiau rhan-amser yma.

Yn ogystal, mae Coleg Menai'n cynnal nifer o Sesiynau Blasu am ddim drwy gydol yr wythnos:

Dydd Mawrth: Garddio / Crosio i Ddechreuwyr

Dydd Mercher: Deall eich iPad

Dydd Iau: Garddio / Ffotograffiaeth Ddigidol

Dydd Gwener: Gwers Wnïo

I gael rhagor o wybodaeth am ein Sesiynau Blasu ac i archebu lle, cliciwch yma, neu anfonwch neges e-bost at Gwenllian Dafydd: dafydd1g@gllm.ac.uk

Mae yna bob amser i #newideichstori