Llysgenhadon Actif y Coleg yn bachu £1000 gan Gynllun Grant Cymunedol Tesco
Mae Llysgenhadon Actif Grŵp Llandrillo Menai wrth eu bodd yn cyhoeddi eu bod wedi derbyn £1,000 gan Grantiau Cymunedol Tesco.
Cynigir Grantiau Cymunedol Tesco - a oedd yn cael ei alw'r cynllun 'Bags of Help' yn flaenorol - mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, Groundwork. Mae'n dyfarnu grantiau i filoedd o brosiectau cymunedol lleol bob blwyddyn. Mae'r fenter wedi rhoi dros £90 miliwn i fwy na 40,000 o brosiectau ledled Prydain eisoes.
Lluniwyd Rhaglen Llysgenhadon Actif Grŵp Llandrillo Menai i feithrin arweinwyr y dyfodol ar draws ei 12 campws, gan hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles.
Nid oes angen i'r dysgwyr sy'n ymuno â'r rhaglen fod yn athletwyr o'r radd flaenaf. Yn hytrach, anelir y rhaglen at ddysgwyr brwdfrydig yng Ngrŵp Llandrillo Menai sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu coleg a'u cymunedau lleol. Grŵp Llandrillo Menai ydy'r corff ymbarél sydd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith y tri choleg sy'n aelodau'r grŵp yng Ngogledd Cymru: Coleg Llandrillo, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.
Fel rhan o'r rhaglen bydd y dysgwr yn llais yr ifanc ar gyfer gweithgaredd corfforol yn eu coleg a'u cymuned ac yn hybu gwerthoedd cadarnhaol gweithgaredd, lles a ffordd o fyw iach.
Mae'r arian a dderbyniwyd gan Grantiau Cymunedol Tesco wedi galluogi'r Llysgenhadon Actif i gefnogi llawer o ddysgwyr i barhau i ddysgu a pharhau i gadw mewn cysylltiad a chynnal agwedd gadarnhaol trwy gyfrwng gwahanol weithgareddau ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd Kristina Aguilar, Llysgennad Actif Platinwm: 'Mae derbyn y cyllid hwn wedi caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad yn ystod cyfnod anodd, a cheisio lledaenu hapusrwydd a charedigrwydd trwy gynnig cyfleoedd i ennill 'Bocs Hapus' a hyfforddiant a digwyddiadau ar-lein."
Dywedodd Claire de Silva, Pennaeth Cymunedol Tesco: "Mae Grantiau Cymunedol Tesco yn cefnogi achosion da lleol, yn enwedig y prosiectau hynny sy'n cefnogi pobl ifanc neu'n darparu bwyd ac achosion da lleol sy'n agos at galonau ein cydweithwyr."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Groundwork, Graham Duxbury: "Mae Grantiau Cymunedol Tesco'n parhau i roi'r hwb sydd ei angen ar brosiectau lleol i helpu eu cymunedau i ffynnu. Rydym ni'n falch o fod wedi medru cynorthwyo cymaint o achosion da lleol dros y blynyddoedd ac yn edrych ymlaen at weld beth all grwpiau cymunedol eu cyflawni yn y dyfodol gyda'r adnoddau cywir."