TIWTOR COLEG MENAI A'I FERCH YN CODI ARIAN ER CÔF AM FFRIND
Mae un o diwtoriaid Coleg Menai wedi helpu i godi dros £30,000 er budd elusen ‘Calm Zone’ er cof am ei ffrind a chyn-gydweithiwr RAF.
Cymerodd Andy Collins, Arweinydd Rhaglen Chwaraeon (Antur Awyr Agored), ran mewn dau ddiwrnod llawn o weithgareddau codi arian.
Roedd Andy yn Hyfforddwr ym maes Gweithgareddau Corfforol ac Antur gyda'r RAF am 15 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth yn ffrindiau mawr gydag Andrew Morris yn ogystal â sawl un arall.
Yn drist iawn, cymerodd Andrew ei fywyd ei hun yn 2017 yn dilyn brwydr gydag iechyd meddwl.
Daeth ffrindiau a chyn-gydweithwyr Andy yn yr RAF at ei gilydd a bathu'r enw 'Talisman Triathlon' ar eu hymdrechion codi arian. Fel rhan o'r ymdrechion hyn maen nhw wedi bod yn cymryd rhan mewn sialensiau megis nofio dŵr agored, mynydda, beicio a llawer mwy.
Ymunodd Andy â'i ffrindiau o'r RAF am ddau ddiwrnod tra oeddynt yng Ngogledd Cymru yn ystod eu taith o amgylch Prydain yn codi arian. Rhedodd Andy hanner cyntaf y daith 62km i'r Wyddfa o Lyn Tegid yn y Bala. Ar yr ail ddiwrnod bu'n rhaid i'r criw o ffrindiau frwydro yn erbyn gwynt cryf a glaw wrth iddynt esgyn i fyny i ben y Wyddfa ar hyd llwybr Pen-Y-Gwryd.
Wedi cael ysbrydoliaeth gan ei thad a'i ffrindiau mae merch Andy, Anni, wedi penderfynu teithio 50 o filltiroedd ar ei sgwter i godi arian at ymdrechion Talisman Triathlons. Ewch i dudalen GoFundMe Anni yma.
Dywedodd Andy,
"Mae fy ngwraig Ceri a fi yn hynod o falch o Anni ac yn gobeithio y bydd yr arian a godwyd yn gwneud gwahaniaeth i'r ystadegyn hwn, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael i unrhyw un sy'n ei chael yn anodd byw ar hyn o bryd.
"Mae pobl eisiau helpu, a dw i'n gobeithio y bydd yr ymdrech hwn i godi arian yn profi hyn i unrhyw un sydd angen yr help hwn ar hyn o bryd."
Gallwch ddysgu rhagor am gyfnod Andy gyda'r grŵp Talisman Triathlon yma.