Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad arbennig Iolo Williams â champws y coleg yn Nolgellau

Daeth Iolo Williams, cyflwynydd rhaglen Springwatch i Goleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar i gefnogi ymgyrch codi arian Dr Kath Whittey sydd ar ei ffordd i Antarctica gyda phrosiect Homeward Bound

Yn ddiweddar, daeth y cyflwynydd teledu, Iolo Williams, i gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau i gyflwyno sgwrs am ei yrfa ym maes cadwraeth.

Roedd y digwydd yn rhan o'r ymgyrch i godi arian ar gyfer cronfa Kath Whittey, cyn-fyfyriwr o'r coleg, ar gyfer ei thaith i. Antarctica.

Dilynodd Kath gyrsiau lefel A yn y coleg ac mae hi ar fin dechrau ar ei thaith i gyfandir oeraf y byd wedi iddi gael ei dewis i fynd ar alldaith ymchwil gyda phrosiect Homeward Bound.

Mae Kath, sy'n fiolegydd morol, wedi codi mwy na £10,000 drwy ei hymgyrch 'Ras i Antarctica', ac fe roddodd ymweliad Iolo â Dolgellau hwb pellach i'r gronfa.

Rhoddodd y cyflwynydd enwog sgwrs ar ei yrfa hynod ddiddorol, o'i ddyddiau cynnar yn gweithio gyda'r RSPB hyd at ei brofiadau mewn gwledydd ar draws y byd. Roedd Iolo hefyd yn gyfrifol am ddewis rhifau buddugol y raffl, a rhannodd wobrau a oedd yn cynnwys lluniau rhoddedig gan Dragon Snap Photography, potel o wisgi Penderyn a photel o Rum.

Dywedodd Barbara Morgan, mam Kath, a darlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: "Cafwyd noson arbennig o ddiddorol a hwyliog yng nghwmni Iolo Williams ar gampws y coleg yn Nolgellau.

"Cawsom glywed rhai hanesion difyr am ei deithiau amrywiol, a dysgu pethau hanfodol fel, beth ddylem ei wneud wrth wynebu arth fawr, a llawer iawn o fanylion am system dreulio gorilaod y mynydd.

"Clywsom hanes ei blentyndod a hanes ei yrfa hyd yma. Dilynwyd ei daith o wylio barcutiaid coch a bodaod tinwyn ger ei gartref yng nghanolbarth Cymru i'r cyfarfyddiadau anturus ag eirth mawr a gorilaod.

"Roedd ganddo ystod eang o brofiadau i'w rhannu â ni, wedi bywyd wedi'i ymroi'n llwyr i warchod amrywiaeth hynod ein planed."

Ychwanegodd Barbara: "Mae Iolo wedi clustnodi amser prin i gefnogi Kath Whittey a'i phrosiect 'Ras i'r Antarctica' - prosiect sydd yn agos at ei galon a chalon pawb arall.

"Hoffwn ddiolch eto i dîm Ras i Antarctica, Gwin Dylanwad Wine, Dragon Snap Photography a phawb a gyfrannodd wobrau yn ystod y cyfnod hwn o godi arian."

Mae Kath yn un o'r 89 o ferched o bob cwr o'r byd sy'n cymryd rhan yn yr alldaith Homeward Bound.

Mae gan bob un ohonynt gefndir ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth) a chawsant eu dewis oherwydd eu potensial i ddatblygu ac arwain prosiectau er lles ein planed.

Cyfarfu Kath a'i chyd llysgenhadon yn Ushuaia, dinas fwyaf deheuol yr Ariannin, i gymryd rhan mewn gweithdai cyn dechrau am Antarctica ar 3 Tachwedd.

Mae Kath yn ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio gyda physgodfeydd i ddeall tueddiadau pysgodfeydd cramennog yng Nghymru. Astudiodd bynciau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a gweithiodd yn rhan amser ar y cwrs BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored cyn dechrau ar ei swydd bresennol.

Mae hi wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan dîm 'Ras i'r Antarctica' gyda'r gwaith o godi arian, tîm sy'n cynnwys ei brawd Rob Whittey a ffrindiau fel Osian Lewis-Smith a Rabia Ali.

⁠Mae'r tri yn gyn-fyfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor ac roeddent ar y campws yn Nolgellau ar gyfer ymweliad Iolo. Mae Rob newydd gwblhau gradd meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial, Osian wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth a Rabia â gradd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd.

I ddarllen rhagor o wybodaeth am daith Dr Kath Whittey i Antarctica neu os hoffech wneud cyfraniad, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am astudio Lefel A gyda Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.