Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Taith i ysbrydoli yn cynnwys ffilm, cerflunwaith a gemau fideo

Cafodd dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor brofiad o waith Damian Hirst a Barbara Hepworth yn ogystal â dysgu am yrfaoedd yn y cyfryngau a dysgu hanes chwarae gemau

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor i ymweld â MediaCity UK, Parc Cerfluniau Swydd Efrog a'r Amgueddfa Gemau Fideo Genedlaethol.

Ysbrydolwyd myfyrwyr Celf a Dylunio o gampws Dolgellau a myfyrwyr Cyfryngau Creadigol o gampws Pwllheli gan waith artistiaid byd-enwog, gan ymweld â chyfleusterau o’r radd flaenaf lle cawsant fewnwelediad amhrisiadwy i’r diwydiannau celf a’r cyfryngau.

Ar y diwrnod cyntaf, cawsant ymweld â champws Prifysgol Salford yn Media City UK, Manceinion Fwyaf. Mae Media City UK yn gartref i stiwdios teledu a ffilm enwog yn ogystal â chwmnïau gan gynnwys y BBC ac ITV.

Dywedodd Gerin Jones, darlithydd y cyfryngau: “Mae’r Brifysgol wedi’i lleoli yno i sicrhau bod ei myfyrwyr yn gallu gwneud cysylltiadau â’r cwmnïau yno.

“Cafodd y myfyrwyr gyfle i weld y stiwdios teledu, ffilm a radio sydd ar gael yn y brifysgol a hefyd ennill dealltwriaeth o wahanol gyrsiau cyfryngau.”

Ar ail ddiwrnod y daith, ymwelodd myfyrwyr â Pharc Cerfluniau Swydd Efrog ac oriel Hepworth yn Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog.

Mae Parc Cerfluniau Swydd Efrog yn estyn dros 500 erw, ac wedi ennill sawl gwobr. Yma roedd y dysgwyr yn gallu gwerthfawrogi darnau gan yr artistiaid clodwiw Erwin Wurm a Damian Hirst. Yn y prynhawn, ar ôl teithio i The Hepworth, cawsant weld gwaith Modernaidd Barbara Hepworth a cherfluniau haniaethol Kim Lim.

Meddai Iolo Lewis, sy'n ddarlithydd Celf: “Roedd ail ddiwrnod y daith yn un creadigol ac un sy'n siŵr o ysbrydoli. Roedd yna waith hynod ddiddorol i’w weld gan Erwin Wurm a Damian Hirst, yn ogystal â chelf fendigedig a chywrain gan Barbara Hepworth.”

Ar y trydydd diwrnod, trochodd myfyrwyr eu hunain ym myd y gemau fideo yn yr Amgueddfa Gemau Fideo Genedlaethol yn Sheffield, De Swydd Efrog.

Dywedodd Gerin: “Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd yn dysgu am hanes gemau fideo, yn ogystal â chael y cyfle i chwarae gemau fideo o wahanol gyfnodau, gan gynnwys Pac-Man, Sonic the Hedgehog a Super Mario Bros. Roedd hwn hefyd yn gyfle da i’r staff chwarae gemau o’u plentyndod... aeth tair awr heibio yn gyflym yno!”

Ychwanegodd Iolo: “Mae teithiau o fewn yr adran yn digwydd yn flynyddol, ac maent o fudd mawr i’r myfyrwyr. Mae’n gyfle i weld gwaith artistiaid, meithrin creadigrwydd a hefyd ennill sgiliau bywyd hanfodol.”

Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffilm, teledu, neu'r celfyddydau? Cliciwch ar y dolenni i ddarganfod rhagor am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai mewn Celf a Dylunio⁠ ⁠a'r Cyfryngau, Teledu a Ffilm.