Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyhoeddi Penodiad Uwch Gyfarwyddwr Busnes@LlandrilloMenai

Mae Gwenllian Roberts, cyn Gyfarwyddwr OFWAT a chyn Brif Swyddog Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Busnes@LlandrilloMenai fel Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol.

Gwasanaeth Grŵp Llandrillo Menai i fusnesau yw Busnes@LlandrilloMenai ac mae'n darparu cymwysterau achrededig proffesiynol, hyfforddiant arbenigol i ddiwydiannau a chyfleoedd dysgu seiliedig ar waith, gan gynnwys prentisiaethau. Y nod yw meithrin y sgiliau sydd eu hangen er mwyn cael economi ffyniannus, a chynnig cyngor ac arweiniad arbenigol i helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, bwyd ac ynni.

Wrth sôn am ei phenodiad, esboniodd Gwenllian:

“Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy mhenodi i'r swydd hon. Drwy gydol fy ngyrfa rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio mewn swyddi sy'n cysylltu diwydiant, y sector cyhoeddus a llywodraeth ac rydw i'n frwd iawn dros wneud gwahaniaeth i bobl a llefydd. Fel rhywun a fagwyd ar Ynys Môn, sydd bellach yn magu teulu yn Llanuwchllyn, ac sydd wedi gweithio ers blynyddoedd lawer yn y maes datblygu economaidd yng ngogledd Cymru rydw i'n ei hystyried yn fraint wirioneddol cael ymuno â Grŵp Llandrillo Menai ac arwain tîm Busnes@LlandrilloMenai.

“Does dim dwywaith bod hwn yn gyfnod heriol, ond yn sgil yr enw da sydd gan Busnes@LlandrilloMenai a'r ymrwymiad a'r brwdfrydedd aruthrol sydd gan y tîm, rydw i'n hyderus iawn y gallwn fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd a'u troi'n gyfleoedd gwirioneddol i economi gogledd Cymru. Mae'r hyn y mae tîm Busnes@, a'r Grŵp cyfan yn ei wneud i helpu a chefnogi pobl o bob oed i gyflawni eu potensial yn ysbrydoliaeth.

“Mae cael arwain y tîm yn gyfrifoldeb mawr, ac rydw i'n gobeithio cefnogi a datblygu'r gwaith o ddarparu prentisiaethau a chyfleoedd dysgu seiliedig ar waith, o feithrin partneriaethau hirdymor ac effeithiol gyda diwydiant ac o ddarparu gwasanaethau rhagorol ym maes busnes, arloesi a throsglwyddo gwybodaeth ar draws holl sectorau allweddol economi gogledd Cymru. Rydw i'n teimlo'n hyderus a chyffrous iawn am y cyfleoedd sydd o'n blaenau.

“Dyma dîm sydd wedi’i wreiddio yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi yn bersonol ac yn broffesiynol. Felly hefyd y cyfle i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu ein darpariaeth Gymraeg ymhellach. Mae gennym ni eisoes gryn brofiad o weithio mewn partneriaeth gyda busnesau a rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar y sylfaen hon ac at y daith sydd o'n blaenau – rydw i'n teimlo'n gyffrous am gael bod yn Uwch Gyfarwyddwr.”

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth dechreuodd Gwenllian ei gyrfa yn niwydiant olew a nwy'r Deyrnas Unedig. Dywed fod bod yn ferch ifanc yn gweithio yn y diwydiant gwrywaidd hwn wedi bod yn ffordd o fagu hunan hyder a datblygu cymeriad a’i fod wedi bod yn brofiad hynod werthfawr.

Ond yn y pen draw roedd yn dynfa'n ôl i sefydlu gyrfa yng ngogledd Cymru yn rhy gryf. Dychwelodd Gwenllian i arwain prosiect datblygu gwledig integredig Goriad Gwyrdd Eryri cyn symud ymlaen i swyddi yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru lle’r oedd ganddi gyfrifoldeb cenedlaethol am sectorau economaidd oedd yn cynnwys ynni, yr amgylchedd a dur. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn rhan annatod o yrfa Gwenllian a dyma sylfaen ei hethos gwaith. Mae hi wedi yn rhan o bartneriaethau ac wedi gweithio'n gydweithredol yng ngogledd Cymru ac ar lefel genedlaethol ers nifer o flynyddoedd, gan ganolbwyntio bob amser ar sicrhau buddion i bobl, llefydd a busnesau.

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Gwenllian i'r Grŵp. Mae hi'n brofiadol tu hwnt ac mae yna lawer iawn o barch tuag ati yng ngogledd Cymru. Ar ben hynny, mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn Llywodraeth Cymru.

“Mae'r Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol yn aelod allweddol o uwch dîm rheoli Grŵp Llandrillo Menai. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda hi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.”