Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwaith y myfyrwyr celf yn cael ei arddangos yn Pontio

Gwahoddwyd dysgwyr y cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai i greu gosodiadau celf yn seiliedig ar y sioe gerdd seicedelig, Operation Julie

Bydd gwaith celf y myfyrwyr yn cael ei arddangos yn Pontio o ddydd Iau ymlaen, gyda gig am ddim gan y band adnabyddus Pys Melyn yn lansio'r arddangosfa.

Mae Gweithred Greadigol/A Creative Operation yn arddangosfa o ddarnau gosod gan fyfyrwyr y cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai.

Mae gwaith y myfyrwyr wedi ei ysbrydoli gan y sioe gerdd roc seicedelig, Operation Julie, sy'n dod i Pontio ym Mangor rhwng 15-18 Mai.

Mae Operation Julie, gan Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn adrodd hanes un o’r cyrchoedd cyffuriau mwyaf erioed, a oedd a’i ganolbwynt yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Fe wnaeth ymchwiliad yr heddlu o'r un enw yn y 1970au ddod o hyd i LSD gwerth £100miliwn – sef 60% o farchnad y byd ar y pryd.

Cyn i’r sioe ymweld â Pontio, gwahoddwyd myfyrwyr y cwrs Sylfaen i greu gwaith celf a fydd yn cael ei arddangos yn y ganolfan tan 19 Mai.

Yn ogystal, dewiswyd gwaith gan y dysgwyr Moli Prendergast ac Amy Evans ar gyfer clawr rhaglen haf Pontio, 'Beth Sydd Ymlaen'.

Dywedodd Owein Prendergast, Arweinydd y Cwrs Celf Sylfaen, “Rydyn ni wedi gweithio gyda Pontio gryn dipyn o weithiau yn y gorffennol yn gwneud gwaith celf safle-benodol ar gyfer rhannau o’r adeilad.

“Ar y cwrs Sylfaen mae gennych chi fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau, felly fe wnaethon ni hyn fel prosiectau grŵp, gyda phob grŵp yn cynnwys artist cain, artist graffeg, a dylunydd cymhwysol.

“Mae gwaith y myfyrwyr yn cynnwys baneri tair metr o uchder wedi’u hongian o’r nenfwd, dau osodiad safle-benodol, yn ogystal â thafluniadau fideo a fydd yn ymddangos ar y wal wen enfawr.”

Bydd lansiad yr arddangosfa yn dechrau am 6.30pm ddydd Iau ac mae mynediad am ddim. Bydd Pys Melyn, y band o Ben Llŷn, yn chwarae am 7.15pm, tra bydd croeso hefyd gan y cyflwynydd radio a’r cerddor Rhys Mwyn.

Meddai Owein: “Mae’n braf bod Pys Melyn yn chwarae, y nhw ydi ffefryn cryn dipyn o’n myfyrwyr sylfaen ac maen nhw wedi bod yn cael eu chwarae'n aml ar BBC 6 Music.”

I ddiolch am eu hymdrechion artistig, mae myfyrwyr y cwrs Celf Sylfaen hefyd wedi cael eu gwahodd i wiriad sain ar noson agoriadol Operation Julie ym mis Mai.

A hoffech chi gael gwybod rhagor am y cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.