Cyhoeddi Llysgenhadon Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2021/22
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi dewis ei Lysgenhadon Myfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai ar gyfer 2021/22.
Fel rhan o Ddiwrnod ‘Hawliau Iaith Cymraeg’, mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o allu cyhoeddi eu Llysgenhadon newydd.
Mae gan y Coleg raglen Llysgenhadon Addysg Bellach a Phrentisiaethau sy’n sicrhau rhwydwaith o lysgenhadon ledled sefydliadau addysg bellach Cymru i hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu sefydliau yn gymdeithasol a’r cyfleuoedd a’r hawliau ii astudio’n ddwyieithog.
Nod y Llysgenhadon yw sicrhau fod y Gangen yn weledol ar draws campysau’r Grŵp, ysbrydoli eu cyd-fyfyrwyr o fantais y Gymraeg ac astudio’n ddwyieithog, gwneud defnydd digidol o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chefnogi gwaith y Swyddogion Cangen wrth drefnu gweithgareddau allgyrsiol.
Am y tro cyntaf, mae gan Grŵp Llandrillo Menai 5 Llysgennad Dysgywr fydd yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws y campysau. Mae’r 5 wedi’u cyflwyno ar wefannau cymdeithasol y Gangen heddiw, ond dyma ychydig am y 5:
Llysgennad Coleg Menai
Sara Llwyd Dafydd, sydd yn astudio Bioleg, Seicoleg a Chemeg ar gampws Bangor. Mae’n edrych ymlaen i annog eu cyd-ddysgwyr i siarad Cymraeg.
Llysgenhadon Coleg Llandrillo
Chloe Mills, sydd yn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Rhos. Mae Chloe yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg a chael hwyl wrth wneud hynny.
Jack Greenhalgh, sydd yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus ar gampws Rhos. Mi ddaeth Jack yn lysgennad gan iddo deimlo ddylai mwy o bobl archwilio i ddiwylliant Cymru.
Holly Whitehouse, sydd yn astudio cwrs Tringwallt hefyd ar gampws Rhos sydd yn credu dylem fod yn ymfalchio bod gennyn ni iaith i’w ddathlu a’i rannu.
Llysgennad Coleg Meirion-Dwyfor
Aneesa Khan sy’n ddysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Pwllheli. Mae’n credu’n frwd fod angen defnyddio’r Gymraeg ar lafar er mwyn ei chadw’n fyw, felly mi fydd hynny yn cael eu atgyfnerthu yn ystod ei chyfnod fel llysgennad.
Gyda brwdfrydedd y llysgenhadon dros yr Iaith Gymraeg, bydd eu cyfraniad at waith Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Grŵp yn allweddol yn ystod y flwyddyn ac i rannu wybodaeth am y cyfleouedd a’r hawliau sydd gan ddysgwyr yn y coleg. Gallwch ddod i adnabod ein llysgenhadon yn well drwy wylio’r fideo isod.
I ddilyn gweithgarwch y Gangen a’r 5 llysgennad dros y flwyddyn academaidd, ewch draw i ddilyn y Gangen ar:
Twitter @SCGLlM
Instagram drwy @cangengllm neu @llysgenhadongllm