Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Croeso Cymru' yn ymweld â Grŵp Llandrillo Menai!

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr yr adran Teithio a Thwristiaeth gyflwyniad rhyngweithiol gan Croeso Cymru.

Roedd myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo'n bresennol yn y seminar rithwir oedd yn cael ei harwain gan Bennaeth Croeso Cymru, Caryl Jones, a Rheolwr Partneriaethau Croeso Cymru, Kerry Thatcher.

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o strategaeth Croeso Cymru a gwerthoedd y brand, y prosiectau mae Croeso Cymru'n gweithio arnynt ar hyn o bryd a dyfodol twristiaeth yng Nghymru. Ar y diwedd, cafodd y myfyrwyr gyfle i ofyn cwestiynau.

Meddai Frances Davies, Rheolwr y Maes Rhaglen Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai,

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Kerry a Caryl o Croeso Cymru am eu hamser. Roedd yn brofiad gwerthfawr a defnyddiol iawn i'r myfyrwyr."

Meddai Rhiannon Thew, Rheolwr y Maes Rhaglen Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Llandrillo,

"Mi wnaeth y myfyrwyr fwynhau'r digwyddiad yn fawr ac rydym yn edrych ymlaen at weithio eto gyda Croeso Cymru yn y dyfodol!"