Pedair adran o Goleg Menai yn cydweithio i ddathlu'r Wythnos Les
Yn ddiweddar daeth dysgwyr Busnes, Chwaraeon, Cerddoriaeth ac Arlwyo sydd yn astudio ar gampws Bangor at ei gilydd i drefnu digwyddiad lles ar gyfer sefydliadau o fewn y gymuned.
Fel rhan o'r cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3 BTEC (Rheoli Digwyddiad) roedd yn ofynnol i'r myfyrwyr blwyddyn 1af i gynllunio a threfnu digwyddiad.
Dyfeisiodd y myfyrwyr y syniad o drefnu digwyddiad lles ar gyfer sefydliadau lleol, a oedd yn cyd-daro gyda menter Wythnos Les Coleg Menai ei hun.
Dywedodd Glenys, arweinydd y rhaglen ar gyfer Busnes: "Roedd y myfyrwyr yn rhagorol o'r dechrau i'w diwedd, gan ddysgu ystod o sgiliau newydd. Fel eu tiwtor, roeddwn yn falch iawn o'u cyfranogiad a'u perfformiad. Cawsant hefyd adborth rhagorol gan yr asiantaethau."
Roedd yr asiantaethau a gymerodd ran yn cynnwys Antur Waunfawr, Ysgol Pendalar a Llwybrau Llesiant. Mae'r sefydliadau hyn yn darparu gweithgareddau a gwasanaethau i oedolion gydag anableddau dysgu, gyda phwyslais allweddol ar wella eu lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol.
Gwella lles corfforol pobl oedd prif bwyslais y digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd Chwaraeon Coleg Menai. Trefnwyd cyfres o weithgareddau chwaraeon ac ystafell ddosbarth ar gyfer y sawl oedd yn bresennol gyda'r myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb llawn am redeg y digwyddiad.
Roedd y gweithgareddau corfforol yn cynnwys pêl fasged, sgitls a "hoops", connect 4, tenis bwrdd, cystadleuaeth saethu goliau cosb a Jenga, tra bod gweithgareddau ystafell ddosbarth yn cynnwys bingo, cwis, gwneud lluniau a chwileiriau a phosau. Y myfyrwyr coleg o’r adran chwaraeon oedd yn gyfrifol am yr hyfforddi ar y dydd, tra cafodd y sawl oedd yn bresennol syrpreis gan y myfyrwyr o'r adran gerdd, a ddaeth yn y prynhawn i berfformio a helpu gyda'r disgo, y gerddoriaeth a gweithgareddau Karaoke. Gyda'r holl weithgareddau ar gael, doedd hi ddim syndod fod y grwp angen saib. Yn ffodus roedd y myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo wrth law i ddarparu lluniaeth ar eu cyfer.
Gyda’i gilydd, cymerodd 70 o gyfranogwyr ran yn y digwyddiad. Roedd y gweithgareddau hefyd ar gael ar Zoom ar gyfer ymgeiswyr na allai fod yn bresennol yn y digwyddiad yn bersonol.
Dywedodd Jennifer Davies, arweinydd rhaglen ar gyfer y Gwasanaethau Amddiffynnol thiwtor yn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: "Roedd y digwyddiad yn eithriadol o lwyddiannus ac roedd yn wych i fedru cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb eto. Roedd hi'n braf iawn gweld pobl gyda gwenau ar eu hwynebau.
"Glenys a'r myfyrwyr busnes drefnodd y digwyddiad, ac roedd yn hyfryd gweld cymysgedd o wahanol weithgareddau wedi eu cynnwys ar y dydd, a oedd yn sicrhau fod pawb yn teimlo eu bod yn cymryd rhan. Edrychaf ymlaen at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf gyda Llwybrau Llesiant (prosiect gan Wasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd,) a fydd gobeithio yn cael ei gynnal yn yr adeilad chwaraeon newydd yn Llangefni."
Dywedodd Eryl Williams, y swyddog lles ar gyfer Llwybrau Llesiant: "Cawsom adborth arbennig gan bawb. Diolch yn fawr iawn i'r holl fyfyrwyr, tiwtoriaid a staff o'r holl adrannau coleg am drefnu pob dim. Mae pawb yn holi pryd mae'r un nesaf yn cael ei gynnal."
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gyrsiau yng Ngholeg Menai, ewch i: www.gllm.ac.uk