Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-Fyfyriwr Arlwyo wedi ei enwi yn Gogydd Gweithredol yn un o fwytai gorau Awstralia

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a benderfynodd gael swydd ran-amser mewn cegin a chofrestru ar gwrs Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo ar ôl gwneud ei TGAU, wedi ennill y swydd o brif gogydd gweithredol mewn bwyty o bwys yn Awstralia!

Mae taith Jonathan Evans ym myd coginio - sydd wedi ei gymryd o Ogledd Cymru drwy Lerpwl a gwlad Groeg i Awstralia - nawr wedi ei dywys i arwain lleoliad newydd sbon, The Iluka yn Perth, lle'r enillodd y swydd o fri o brif gogydd gweithredol yn 2021. Mae'r Iluka yn gysyniad bwyd a diod newydd cyffrous wedi ei nythu rhwng Riff y Cefnfor yr India a Thraeth Burns, yn union wrth ymyl Cefnfor yr India.

Eglurodd Jonathan fwy: "Roedd fy mlynyddoedd yn y coleg yn bleserus iawn a rhoddodd i mi'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn bywyd. Wedi i mi gwblhau fy nghymhwyster Lefel 3, penderfynais fynd allan i'r byd go iawn a gweithio yn llawn-amser. Gweithiais mewn sefydliadau anhygoel o gwmpas ardal Llandudno - gan gynnwys y Gwesty Imperial, St Tudno a'r Queens' Head - ond roedd gen i awch am deithio a gweld y byd."

Mae ganddo esgidiau teuluol mawr i'w llenwi, gan ei fod yn fab i Mike Evans, sy'n cydbwyso ei amser fel tiwtor Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg gyda'i rôl fel rheolwr Tîm Coginio Iau Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd gwybodaeth eang Mike o fewn y diwydiant lletygarwch mewn pennod ddiweddar o gyfres boblogaidd y BBC "The Apprentice".

Man galw cyntaf Jonathan wedi cwblhau ei hyfforddiant ar gampws Llandrillo-yn-Rhos a gadael y cartref teuluol oedd gwlad Groeg, lle y gweithiodd dymor llawn yn dysgu technegau a dulliau newydd, ac fel y mae'n dweud "gan fwynhau pob munud".

Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig, symudodd i Lerpwl lle gweithiodd mewn sawl bwyty o safon uchel, gan barhau i ddatblygu ei sgiliau. Roedd ganddo o hyd ysfa am deithio'r byd, felly rhoddodd y gorau i'w swydd yn Lerpwl fel cogydd a phrynu tocyn un ffordd i Awstralia!

Glaniodd yn Perth yn 2011, ac yn fuan cafodd swydd fel Chef de Partie. O fewn mis, fe'i dyrchafwyd yn sous chef a chynigiwyd nawdd iddo, a ganiataodd iddo ennill cyfnod hyfforddi yn Awstralia. Parhaodd yn y "C Restaurant in the Sky" - unig fwyty sy'n troelli Gorllewin Awstralia - am chwe blynedd, gan ennill nifer o ddyfarniadau a gwobrau, gan barhau i adeiladu ar ei enw da fel cogydd o fri.

Cafodd yna gyfnodau fel prif gogydd mewn lleoliad glan y môr yn Perth, sef y Mullaloo Beach Hotel, a adwaenir hefyd fel The Wild Fig, lle'r arhosodd am dair blynedd, gan helpu i ddod â'r lleoliad nol i'w hen ogoniant.

Yn ystod y pandemig, cysylltwyd gyda Jonathan gan grwp o fuddsoddwyr - sydd yn cynllunio agor llawer o ganolfannau o'r radd flaenaf yn y blynyddoedd i ddod, i ymuno gyda nhw yn yr Iluka fel eu prif gogydd gweithredol.

Dywedodd: "Roedd yn heriol iawn dod yn chef gweithredol ag agor canolfan newydd yn ystod pandemig, yn enwedig gyda'r broblem ychwanegol o brinder staff. Fodd bynnag, gwnaeth fy mrwdfrydedd parhaus ar gyfer y diwydiant a ddarganfûm yn ystod fy hyfforddiant yng Ngholeg Llandrillo, fy sbarduno i lwyddo.

"Rydym wedi bod ar agor am bron i flwyddyn, wedi adeiladu tîm ardderchog ac mae gennym gannoedd o gwsmeriaid hapus. Rydym yn awr wedi prynu ein hail leoliad a fydd yn cael ei adeiladu a'i agor o fewn blwyddyn. Hoffwn ddiolch i fy holl diwtoriaid yng Ngholeg Llandrillo sydd wedi fy helpu a fy annog, gan fy ngalluogi i gael y fath fywyd gwych."


I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk,galwch y tîm Gwasanaethau Dysgwyr ar 01492 542 338, neu anfonwch e-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk