Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Matt Tebbutt o'r BBC yn rhannu ei brofiadau gyda Diwydiant Twristiaeth Llandudno

Bydd Matt Tebbutt, cogydd llwyddiannus yn ogystal ag awdur a chyflwynydd Saturday Kitchen ar y BBC yn dod i Landudno mis nesaf i siarad mewn digwyddiad arbennig iawn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn Llandudno a'r cyffiniau.

Busnes@LlandrilloMenai sydd wedi trefnu'r digwyddiad fel rhan o brosiect 'Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth' a ariannwyd gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth Prydain.

Bydd Matt yn myfyrio ar yr hyn a'i denodd at y diwydiant yn ogystal â'r atgofion a'r cerrig milltir pwysig wrth i'w yrfa ddatblygu. Bydd yn defnyddio ei brofiad a'i farn bersonol fel dyn busnes a chyflogwr i drafod un o'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant lletygarwch ledled y byd, sef denu a datblygu gweithwyr proffesiynol medrus a brwdfrydig ar gyfer y dyfodol.

Mae CV Matt yn drawiadol iawn. Ar hyn o bryd mae'n cyflwyno Saturday Kitchen, Best Bites ar BBC1 a Food Unwrapped ar Sianel 4. Enillodd Matt ddiploma yn Leiths School of Food and Wine yn Llundain cyn mynd ymlaen i weithio yn rhai o fwytai mwyaf mawreddog Llundain yn cynnwys gweithio i Marco Pierre White yn The Oak Room a Criterion. Roedd hefyd yn rhedeg ac yn berchen ar The Foxhunter Inn ger Brynbuga yn ne Cymru lle enillodd nifer o wobrau, yn cynnwys gwobr yr AA i Fwyty Gorau Cymru.

Bydd Dave Chapman o UK Hospitality – Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, a Jane Richardson - Cyfarwyddwr Strategol Economi a Lle Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymuno â Matt yn y digwyddiad i gynnig ychydig o gyd-destun ar lefel leol a Chymru gyfan. Yna cynhelir trafodaeth rhwng panel o arweinwyr lleol a'r gynulleidfa pan fydd cyfle i drafod sut i fynd i'r afael â'r her o recriwtio a chadw staff yn yr ardal leol.

Cynhelir y digwyddiad 26/04/2022 yng Ngwesty St George Llandudno. Rhaid archebu lle o flaen llaw gan fod cyfyngiad ar y niferoedd. I archebu'ch lle, dilynwch y linc.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o 'Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth' ac fe'i cyflwynir gan Busnes@LlandrillloMenai ar y cyd â Mostyn Estates Ltd. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Prydain drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth Prydain.

Os hoffech wybod rhagor yna ffoniwch 08445 460 460, neu anfonwch neges e-bost athomas@gllm.ac.uk

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus