Cyn fyfyriwr Lefel A yn gweithio ar ffordd osgoi newydd gwerth £139 miliwn.
Cafodd Gwion Lloyd, o Harlech, sydd yn gyn-fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Dolgellau ei ddewis ymhlith degau o ymgeiswyr fel Peiriannydd dan hyfforddiant ar ffordd osgoi newydd gwerth £139 miliwn Llywodraeth Cymru.
Astudiodd Gwion bynciau Daearyddiaeth, Mathemateg a'r Bac, ac UG mewn Electroneg ar gyfer ei Lefel A, cyn symud ymlaen i weithio ar y lon, dyma ei swydd gyntaf.
Dywedodd Gwion.
"Mae'n brofiad da, 'da ni 'di bod yma ers tair blynedd rŵan ac mae 'na dipyn o waith 'di mynd mewn iddo.
"'Swn i methu cael job gwell i ddechrau - dwi'n falch bod nhw 'di dewis fi. Doedd gennai ddim profiad pan 'nes i ddechrau, dwi'n prowd iawn o be dwi 'di gyflawni."
Dyma ychydig o ffeithiau am y ffordd osgoi.
- 93% o'r gweithlu o ogledd Cymru;
- Cyflogwyd 36 o raddedigion a phrentisiaid a 15 ar brofiad gwaith;
- Prosiect gwerth £139m;
- Mae'r lôn yn ymestyn am 9.8km (6 milltir) o gylchfan Plas Menai i gylchfan y Goat;
- Tri chylchfan newydd ym Meifod, Cibyn a Bethel;
- Cynllun priffyrdd mwyaf yn y gogledd;
- Tua 170,000 o goed wedi eu plannu;
- 20km o wrychoedd newydd.
Dywedodd Bethan Lloyd Owen-Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
“Rydym yn falch iawn o lwyddiant Gwion, ac yn sicr bod yr addysg sydd gennym i’w gynnig yma yn y coleg wedi cyfrannu i lwyddiant Gwion. Da iawn ti. Fel un fydd yn defnyddio’r ffordd osgoi newydd yn ddyddiol, wrth i mi fynd i’r gwaith, mae fy niolch personol i ti yn anferthol fel un oedd yn arfer bod mewn ciwiau traffig am oriau pob wythnos.
Am fwy o wybodaeth am holl gyrsiau Lefel-A Coleg Meirion-Dwyfor, cliciwch YMA.