Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celf Coleg Menai yn ennill dwy wobr mewn Cystadleuaeth Gelf Genedlaethol

Cadarnhawyd ansawdd adrannau Celf Grŵp Llandrillo Menai ymhellach yn ddiweddar, ar ôl y ddau enillydd cystadleuaeth myfyrwyr ‘Gwobr Arlunio Syr Kyffin Williams’ – a enillodd ddwsinau o geisiadau o bob rhan o Gymru, Lloegr a thramor – fod y ddau yn fyfyrwyr Coleg Menai Bangor!

Cadarnhawyd ansawdd adrannau Celf Grŵp Llandrillo Menai ymhellach yn ddiweddar, ar ôl y ddau enillydd cystadleuaeth myfyrwyr ‘Gwobr Arlunio Syr Kyffin Williams’ – a enillodd ddwsinau o geisiadauo bob rhan o Gymru, Lloegr a thramor – fod y ddau yn fyfyrwyr Coleg Menai Bangor!

Dyfarnwyd y wobr i Zack Robinson, 20 oed, ac Orestas Norkus, 19 oed, y dau yn byw yng Nghaernarfon gan ennill ddwy wobr genedlaethol a £1,000 yr un. Mae gan Zack arddangosfa ymlaen yn y Galeri yn Gaernarfon ar hyn o bryd hefyd.

Cynhelir y gystadleuaeth arlunio fawreddog pob tair blynedd gyda £3,000 o wobr i ennillydd y gystadleuaeth agored a £1,000 yn cael ei gyflwyno i enillwyr gwobrau myfyrwyr.

Nod y gystadleuaeth yw hyrwyddo a gwobrwyo rhagoriaeth a dawn mewn ymarfer lluniadu yng Nghymru. Eleni aeth y wobr y gystadleuaeth agored i’r artist enwog Eleri Mills, am ei llun inc o’r enw ‘In the Valley – Towards the Bridge’. Sefydlwyd Gwobr Arlunio Syr Kyffin Williams gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ac Oriel Môn, yn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, er cof am Artist mwyaf toreithiog a mwyaf poblogaidd Cymru a fu farw yn anffodus yn 2006.

Gwaith celf buddugol Eleri Mills, Zack Robinson ac Orestas Norkus, ynghyd â'r darnau a gynhyrchwyd gan artistiaid eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer, a gymerodd ran ganolog yn Arddangosfa Gwobr Arlunio Kyffin Williams yn Oriel Môn yn Llangefni yn ddiweddar.

Mae Zack Robinson yn astudio ar gyfer ei radd BA (Anrh) Celfyddyd Gain ar safle Parc Menai, Coleg Menai ym Mangor. Roedd gofyn iddo greu gwaith wedi’i ysbrydoli gan artist a oedd yn bwysig iddo gan ei diwtor fel rhan o’i waith cwrs. Roedd rhaid iddo fod mewn du a gwyn, ond dal i ddal y dyfnder yn y llun. Y paentiad y dewisodd ei efelychu oedd un o baentiadau enwocaf y meistr Iseldiraidd Van Gogh: ‘Wheat Field with Cypresses’.

Dywedodd Zack, aeth i Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug: “Doeddwn i wir ddim yn meddwl y byddwn i’n ennill. Mae’n deimlad mor anhygoel gallu ennill cystadleuaeth mor bwysig, sydd wedi’i sefydlu er cof am hoff artist Cymru.”

Mae Orestas Norkus yn astudio ar y cwrs Celf Sylfaen: Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen. Mae’r darn buddugol gan Orestas yn ddarlun pensaernïol o’r enw ‘Des Attentes Elevees’ (High Expectations).

Eglurodd Orestas fwy: “Dechreuodd fy niddordeb mewn pensaernïaeth a strwythur gwahanol adeiladau wrth i mi dyfu i fyny yn Lithuania. Mae fy nghelf wedi’i hysbrydoli gan fy astudiaethau i wahanol strwythurau o amgylch y byd a sut mae siapiau a ffurfiau llinol yn creu argraff ar y gwyliwr.”

Ers cychwyn y gystadleuaeth, mae nifer o’r artistiaid sy'n ymgeisio wedi cynyddu'n sylweddol, gydag ymgeiswyr yn dod i mewn o bob rhan o Gymru a Lloegr, yn ogystal ag o dramor. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol gyda’r pandemig yn gorfodi orielau ac amgueddfeydd i gau dros dro. Fodd bynnag, er gwaethaf dau gyfnod clo, roedd y wobr yn dal i allu denu dros 150 o ymgeiswyr gyda 63 o'r lluniadau gorau wedi'u dewis ar gyfer yr arddangosfa.

Dywedodd David Meredith, cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “Mae wedi rhoi pleser mawr i Ymddiriedolaeth Kyffin Williams i weithio mewn partneriaeth ag Oriel Môn i drefnu’r Wobr Arlunio eto eleni.

“Yr hyn sy’n ein hysbrydoli ni i gyd yw egwyddorion creadigol sylfaenol Syr Kyffin, a’i bwyslais ar bwysigrwydd y sgil o arlunio. Cyhyd ag y gallwn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ymestyn bendith cyfoethogi bywyd creadigrwydd artistig.”

Panel beirniaid ‘Gwobr Arlunio Kyffin Williams’ eleni oedd: Lisa Taylor, Owein Prendergast, Gareth Parry a John Smith, ac fe’i cadeiriwyd gan David Meredith.

www.gllm.ac.uk