Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cystadleuwyr rownd derfynol F1 mewn Ysgolion yn diolch i’w noddwyr

Llwyddodd Tîm 'Come and Go' i gyrraedd rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth STEM, diolch i gefnogaeth CK International, Milliput, Automax a Menai Motorsports

Cyflwynodd y dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor fodelau o'r car rasio a ddyluniwyd ganddynt ar gyfer rownd derfynol F1 mewn Ysgolion i'w noddwyr, CK International Ltd a Milliput

Cystadlodd Tîm 'Come and Go', sef myfyrwyr peirianneg o gampws Hafan ym Mhwllheli, yn rownd derfynol y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn gynharach eleni ar ôl i'w car berfformio gyflymaf yn y rhagbrofion rhanbarthol.

Yn y digwyddiad yn Rotherham, gorffennodd y Tîm tua chanol y bwrdd, gydag amser cyflymaf o 1.498 eiliad, dim ond 0.281 eiliad yn arafach na char cyflymaf yr adran broffesiynol.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael eu noddwyr, oedd yn cynnwys CK International o Bwllheli, un o brif gyflenwyr a dosbarthwyr offer at ddefnydd proffesiynol, diwydiannol a domestig, a chwmni Milliput, cynhyrchwyr pwti rhyngwladol o Ddolgellau.

Yn ddiweddar, gwahoddodd aelodau’r tîm Gyfarwyddwr Cyllid a Materion Corfforaethol CK International, Helen Halpin, i gampws Hafan i gyflwyno copi o’r car rasio iddi fel diolch.

Fe wnaethant hefyd gyflwyno copi o’r car rasio i gyfarwyddwr Milliput, Stephen Atherton, a ymwelodd â’r campws i gyflwyno tystysgrifau i’r myfyrwyr am gystadlu yn y rownd derfynol genedlaethol.

Noddwyd y tîm hefyd gan Milliput, Automax a Menai Motorsports. Yn ogystal, cododd y tîm arian eu hunain trwy argraffu addurniadau Nadolig 3D i’w gwerthu, ynghyd â £700 trwy eu tudalen GoFundMe.

Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau, yw arweinydd rhaglen y coleg ar gyfer y cynllun F1 mewn Ysgolion.

Dywedodd: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o'r gefnogaeth a'r nawdd a gafodd y timau eleni. Heb gefnogaeth cwmnïau lleol fel CK Tools, Milliput, Automax a Menai Motorsports, fyddai hi heb fod yn bosibl ariannu'r digwyddiad hwn.

“Cododd y tîm dros £700 ar eu tudalen GoFundMe hefyd, trwy gael nawdd gan ffrindiau a theulu pawb oedd â rhyw fath o gysylltiad â’r tîm.”

“Hoffem ddiolch hefyd i’r holl noddwyr a gefnogodd y timau yn y gystadleuaeth ranbarthol: Deintyddfa Deudraeth, Victoria Inn, Cwmni Arian Cyf, Clogau Motors, Dyffryn General Stores, Cwt Cybi, MAC Fire and Security, Pacifier, WRM Fire and Security, Beatservices a Choleg Meiron-Dwyfor.”

Ychwanegodd: “Allwn ni ddim diolch digon i’r gymuned am eu rhoddion caredig. Mae hyn wedi rhoi’r cyfle gorau i’n myfyrwyr arddangos eu doniau mewn cystadleuaeth o’r radd flaenaf, ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar.”

Mae Tîm ‘Come and Go’ i gyd yn astudio'r Cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch, ac roeddent yn cystadlu yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion fel rhan o'u hasesiad ar gyfer Uned 2 – Cyflwyno Prosiect Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm.

Meddai Emlyn: “Mae’n wych i'r myfyrwyr gael cyfle i gymryd rhan mewn prosiect mor ddifyr a buddiol.

“Mae’r uned yn cyd-fynd yn dda â'r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion, ac mae’r myfyrwyr yn defnyddio’r sgiliau y maent wedi’u hennill fel rhan o’r cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch.

“Mae hyn yn cynnwys Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a Gweithgynhyrchu Ychwanegion, y ddau yn rhan o’r modiwlau BTEC, tra bod sgiliau cyfathrebu, sgiliau cyflwyno a sgiliau chymdeithasol yn cael eu datblygu fel rhan o Fagloriaeth Cymru.”

Yn ôl ym mis Medi, dyluniodd y timau eu ceir gan ddefnyddio pecyn dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) Fusion 360, cyn eu gweithgynhyrchu ar beiriant melino CNC Denford.

Car Tîm 'Come and Go' oedd y cyflymaf yn rhagbrofion Gogledd Cymru yng Nghanolfan Hamdden Dinbych. Daethant yn ail yn y gystadleuaeth a oedd yn cynnwys rasio, rhoi cyflwyniad llafar i banel o feirniaid, cyflwyno portffolio peirianneg a dylunio a chyflwyno portffolio menter.

Golygai hyn eu bod wedi cymhwyso ar gyfer rownd derfynol y DU yn Rotherham, lle buont yn cystadlu mewn dwy sesiwn rasio a ddarlledwyd yn fyw gan drefnwyr F1 mewn Ysgolion ar YouTube. Gellir gweld y rhain trwy'r dolenni canlynol:

Diwrnod 1

Diwrnod 2

Dyluniodd ac adeiladodd y tîm eu harddangosfa eu hunain ar gyfer ochr y trac rasio, a chawsant hwdis newydd gan Teejac Sports yn arbennig ar gyfer eu hymddangosiad ar y llwyfan cenedlaethol. Fel rhan o'r gystadleuaeth, gwnaethant hefyd gyflwyniad 10 munud, cawsant sawl cyfweliad gyda phersonél marchnata er mwyn cael cyhoeddusrwydd, ac fe wnaethant gyflwyno eu portffolios dylunio i beirianwyr oedd yn edrych yn fanwl ar safonau technegol y car.

Mwynhaodd pawb y profiad, ac ar ôl gorffen yn 22ain allan o 32 o dimau daethant yn ôl i’r coleg gyda’r brwdfrydedd i wella ar eu perfformiad yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.

Hoffech chi ddysgu rhagor am y byd cyffrous ac arloesol sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.