Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant yn yr Eisteddfod i fyfyrwyr y coleg

Hyd yma eleni, mae myfyrwyr y cwrs Cymraeg Safon Uwch ar gampysau Pwllheli a Dolgellau wedi ennill 37 o wobrau rhyddiaith – yn cynnwys rhai yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Yr wythnos hon, enillodd myfyrwyr sy'n astudio Cymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor sawl cystadleuaeth ryddiaith yn Eisteddfod yr Urdd.

Efa Glyn Jones enillodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 (Blog) ac Angharad Sophia Thomas enillodd y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 (Araith).

Cafwyd llwyddiant ysgubol yn y ddwy gystadleuaeth, gyda'r ail a’r drydedd wobr hefyd yn mynd i fyfyrwyr Safon Uwch o Goleg Meirion-Dwyfor.

Daeth Noa Rhys Williams yn ail yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 (Blog), ac Angharad Lloyd Davies yn drydydd.

Milli Foskett Roberts ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 (Araith), a Nansi Glyn Williams yn drydydd.

Dyma’r llwyddiant diweddaraf i ddod i ran myfyrwyr y cwrs Cymraeg Safon Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, wedi iddynt ennill cyfanswm anhygoel o 37 gwobr mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol hyd yma eleni.

Meddai Marged Tudur, y tiwtor Safon Uwch mewn Cymraeg: "Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Adran Cymraeg Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau am gyflawni camp aruthrol mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol eleni.

“Hyd yma, mae 37 o wobrau wedi dod i’r adran ac mae 14 o fyfyrwyr wedi derbyn gwobrau gwahanol.

“Mae yna sîn lenyddol fyrlymus yn Nwyfor-Meirionydd. Mae beirniaid cenedlaethol amrywiol – Rhys Iorwerth, Andrea Parry, Idris Reynolds, Melanie Owen, Guto Dafydd a Sioned Erin Hughes, i enwi dim ond rhai – wedi rhoi canmoliaeth eithriadol i’r myfyrwyr.

“Rydyn ni'n falch iawn o’u llwyddiant a heb os nac oni bai, byddwn yn clywed llawer mwy gan yr awduron arbennig hyn yn y dyfodol. Llongyfarchiadau i chi i gyd.”

Mae’r gwobrau a enillwyd gan fyfyrwyr cwrs Cymraeg Safon Uwch y coleg hyd yma eleni fel a ganlyn:

Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024: Rhyddiaith dan 25 oed (Blog)

1. Efa Glyn Jones

2. Noa Rhys Williams

3. Angharad Lloyd Davies

Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024: Rhyddiaith dan 25 oed (Araith)

1. Angharad Sophia Thomas

2. Milli Foskett Roberts

3. Nansi Glyn Williams

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Chwilog

1. Megan Ellen Jones

2. Angharad Lloyd Davies

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Garndolbenmaen

1. Elin Mair Jones

2. Alaw Roberts

3. Angharad Sophia Thomas

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Gadeiriol Rhydlewis

1. Huwcyn Griffith Jones

2. Erin Mitchelmore

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Llanllyfni

1. Huwcyn Griffith Jones

2. Elin Mair Jones

Rhyddiaith dan 25 oed, Eisteddfod Llanllyfni

1. Angharad Lloyd Davies

2. Angharad Sophia Thomas

3. Milli Foskett Roberts

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Llanegryn

1. Elin Mair Jones

2. Angharad Sophia Thomas

3. Beca Llwyd Lewis Jones + Alaw Roberts

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Mynytho

1. Elan Robat Owen

2. Megan Elen Jones

Stori Fer dan 25 oed, Eisteddfod Bethel Melin y Coed

1. Angharad Sophia Thomas

2. Beca Llwyd Lewis Jones

3. Megan Elen Jones

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Groeslon

2. Efa Glyn Jones

3. Noa Rhys Williams

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Uwchmynydd

3. Efa Glyn Jones

Tlws yr Ifanc dan 25 oed, Eisteddfod Ceidio

1. Milli Foskett Roberts

2. Efa Glyn Jones

3. Noa Rhys Williams + Angharad Sophia Thomas

Rhyddiaith dan 19 oed, Eisteddfod Marian Glas

1. Efa Glyn Jones

2. Megan Ruth Lloyd Jones

3. Erin Mitchelmore

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yr wythnos hon ar Fferm Mathrafal ger Meifod, Powys.