Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sêr pêl-droed Coleg Menai a Chymru'n cipio tlws Roma Caput Mundi

Roedd Osian Evans, Morgan Davies a Harry Hughes yn nhîm Ysgolion Cymru a gurodd Lloegr yn rownd derfynol y twrnamaint yn yr Eidal

Roedd tri o fyfyrwyr Coleg Menai yn nhîm dan 18 oed Ysgolion Cymru a gipiodd fuddugoliaeth yn nhwrnamaint Roma Caput Mundi am y tro cyntaf. ⁠

Roedd Osian Evans, Morgan Davies a Harry Hughes yn aelodau allweddol o dîm Cymru a gurodd Colegau Lloegr yn rownd derfynol y twrnamaint ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Cafodd yr ymosodwr Osian ei enwi yn chwaraewr y twrnamaint ar ôl sgorio tair gôl ar yn ystod y gystadleuaeth.

Mae twrnamaint Roma Caput Mundi wedi cael ei gynnal ers 2005, a dyma’r nawfed tro i dîm Ysgolion Cymru gystadlu.

Curodd y bechgyn Canada 4-2 yn eu gêm grŵp agoriadol, gydag Osian yn sgorio. Collon nhw 2-1 i San Marino wedyn, ond cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol ar ôl curo Denmarc 3-1 yn eu gêm grŵp olaf, diolch i ddwy gôl arall gan Osian.

Daeth y gêm derfynol dynn yn erbyn Lloegr i ben mewn gêm gyfartal 0-0 ar ôl amser arferol, ac enillodd Chymru 4-2 ar giciau o'r smotyn i godi'r tlws.

Marc Lloyd Williams, Arweinydd Maes Rhaglen a Rheolwr Academi Coleg Menai, sy'n rheoli Tîm dan 18 Ysgolion Cymru, ac aeth ar y daith i Rufain gyda'r tîm. ⁠ ⁠

Dywedodd fod y fuddugoliaeth yn hwb enfawr wrth i dîm dan 18 Ysgolion Cymru geisio cipio Tarian y Canmlwyddiant am y drydedd flwyddyn yn olynol dros yr wythnosau nesaf. Maen nhw'n chwarae'r Alban ar Fawrth 14, Lloegr ar Fawrth 28, Gogledd Iwerddon ar Ebrill 11 a Gweriniaeth Iwerddon ar Ebrill 18.

Dywedodd Marc: “Mae’n dipyn o gamp i fod y garfan gyntaf o Gymru i ennill twrnamaint Roma Caput Mundi , yn dilyn ennill y 'Centenary Shield' ddwy flynedd yn olynol.

"Dyma’r tro cyntaf i ni fod yn y rownd derfynol, ac roedd ennill ar Ddydd Gŵyl Dewi yn arbennig iawn. Gwnaeth y bechgyn yn arbennig o dda ac roeddent yn glod i’r coleg.”

Mae Osian yn dilyn cwrs Chwaraeon Lefel 2, a'r chwaraewyr canol cae Morgan a Harry ill dau yn dilyn cwrs Diploma Sylfaen mewn Peirianneg. Mae'r tri yn chwarae i dîm Tref Caernarfon.

Dywedodd Marc: “Rydym wedi datblygu’r bartneriaeth honno gyda thref Caernarfon, ac o safbwynt Coleg Menai, mae gweld tri hogyn yn dod drwy’r llwybr hwnnw yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.”

Bu dysgwyr Grŵp Llandrillo, Menai Menna Evans a Phoebe Ellis hefyd yn cymryd rhan mewn gweithredu rhyngwladol yn yr Eidal, yn chwarae i ferched dan 19 Chwaraeon Colegau Cymru yn nhwrnamaint Il Calcio E Rossa.

Mae Menna yn dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 yng Ngholeg Menai, tra bod Phoebe yn astudio cwrs Chwaraeon Lefel 3 (Perfformiad a Rhagoriaeth) yng Ngholeg Llandrillo.

Roedd Catrin Hughes, Darlithydd RhA Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo, yn therapydd chwaraeon i garfan y merched ac yn gwmni iddynt.

Chwaraeodd tîm y merched yn erbyn Lazio, Canada a Lithuania, gan ennill profiad amhrisiadwy mewn twrnamaint rhyngwladol.

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.