Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Barnaby yn ennill Ysgoloriaeth Artist Newydd Eisteddfod Genedlaethol 2025

Astudiodd y crefftwr a'r cerflunydd Barnaby Prendergast Goedwigaeth yng Nglynllifon a'r cwrs Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai cyn ennill gradd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain

Mae Barnaby Prendergast, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a Glynllifon, wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen yr Eisteddfod Genedlaethol 2025.

Enillodd Barnaby y wobr flynyddol yn yr Eisteddfod yn Wrecsam am ei gerfluniau, Cadair Ffon Gymreig, Cannwyll Siglo a Ffrâm Gylchdro.

Bydd y gŵr ifanc 22 oed o Fynydd Llandygai ger Bangor yn ennill £1,500 ac yn cael cyfle i arddangos ei waith yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Dilynodd de Barnaby ⁠y cwrs Lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yng Nglynllifon, cyn symud ymlaen i'r cwrs Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai ym Mangor.

Yn ei waith celf mae'n cyfuno'r sgiliau a ddysgodd ar y ddau gwrs trwy ddefnyddio crefftau traddodiadol i greu eitemau buddiol, yn bennaf o ddeunyddiau y cafodd hyd iddynt ar hap.

Yr haf hwn, graddiodd Barnaby o Brifysgol Bryste gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain, a chyflwynodd waith a wnaeth at ei radd am Ysgoloriaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd: “Mi ges i dipyn o sioc! Do'n i'n sicr ddim yn disgwyl ennill, yn enwedig o edrych ar rai o'r artistiaid sydd wedi ennill yn y gorffennol.”

Er bod Barnaby yn defnyddio crefftau traddodiadol, mae'n mwynhau gwneud pethau ychydig yn wahanol – felly mae'r Cadair Ffon Gymreig yn ddehongliad modern o gadair draddodiadol, y Gannwyll Siglo yn gannwyll sy'n siglo, a'r Ffrâm Gylchdro yn flwch pren gyda chadwyn fetel yn troi o'i gwmpas.

Ei fwriad yw defnyddio arian yr ysgoloriaeth i fuddsoddi mewn offer newydd er mwyn parhau i greu gwaith crefft fel cadeiriau ffyn, stolion a llwyau. Mae hefyd yn bwriadu creu gwefan i hyrwyddo ei waith, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n troi ysgubor yng nghartref ei deulu yn stiwdio.

Dywed fod y sgiliau a ddatblygodd yn ystod ei gyfnod yng Nglynllifon a Choleg Menai wedi ei ysgogi i ddilyn llwybr creadigol.

“Ro'n i’n gwybod ’mod i eisiau mynd i’r coleg, a soniodd ffrind am y cwrs coedwigaeth yng Nglynllifon,” meddai. “Roedd gen i ddiddordeb mewn natur, ac mae mewn lle braf iawn.

“Roedd yn gwrs da. Mi ddysgais i lawer ar y cwrs ac mae hynny'n dal i fod yn ddefnyddiol i'r hyn dw i'n ei wneud rŵan – yn enwedig y gwaith coed.

“Roedd gen i'n wastad ddiddordeb mewn gwneud pethau gyda choed, ac mi wnes i fwynhau'r uned lle'r oedden ni'n cerfio pren ac yn gwneud tŵls. Roedden ni'n dysgu am goed hefyd, a sut i ofalu amdanyn nhw sy'n ddefnyddiol iawn mewn ardal wledig.”

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yng Nglynllifon aeth Barnaby ymlaen i ddilyn y cwrs Sylfaen mewn Celf, sy'n cael ei ddysgu gan ei dad, Owein.

Dywedodd: “Fe wnes i fwynhau’r cwrs Sylfaen ym Mharc Menai'n fawr iawn. Dysgais sut i wneud y defnydd gorau o'r stiwdio fawr eang a'r offer amrywiol. Mi wnes i fagu'r hyder i ehangu fy ngwaith ac mi wnaeth hynny fy mharatoi ar gyfer defnyddio stiwdio oedd hyd yn oed yn fwy ar fy nghwrs gradd.”

Ar hyn o bryd mae Barnaby yn gweithio ar gerflun pren fel rhan o Coed Coexist, prosiect a ddechreuwyd gan yr artistiaid o Ben Llŷn Junko Mori a John Egan mewn partneriaeth â chanolfan gelf Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog.

Mae'n un o nifer o artistiaid sydd wedi casglu pren o goeden ffawydd a gwympodd mewn storm er mwyn creu gwaith a fydd yn dathlu Pen Llŷn ac yn edrych ar sut y gall pobl gyd-fyw'n well â choed, coetiroedd a choedwigoedd.

Disgwylir i waith y prosiect Coed Coexist gael ei arddangos ym Mhlas Glyn-y-Weddw ym mis Mai a Mehefin 2026.

Yn y cyfamser, mae gwaith pedwar o raddedigion y cwrs BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai eleni wedi cael ei ddewis i'w arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae gwaith gan Lliwen Williams, Erin Williams, Arawn Bryn a Hari Owen yn cael ei arddangos yn Y Lle Celf.

Gwaith gan Erin Williams, Arawn Bryn a Hari Owen sy'n cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Roedd fideo Hari, ‘Mabinogion PSA’ ymhlith y gweithiau a ddewiswyd. Gan ddynwared arddull hysbysebion cyhoeddus yr 1980, mae'n rhybuddio pobl am greaduriaid mytholegol Cymreig sydd wedi cael eu dal ar gamera.

Dywedodd: “Mae’n fraint fod fy ngwaith wedi cael ei ddewis i'w arddangos gyda chynifer o artistiaid gwych o Gymru. Mae'n gyfle arbennig i mi a dw i'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi fy ngwaith.”

Hoffech chi weithio yn y sector Celf a Dylunio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date