Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr peirianneg yn cael profiad byd go iawn dros hanner tymor

Pob lwc i ddysgwyr y cwrs Lefel 3 Peirianneg Gyffredinol Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor sy'n ar leoliad gwaith am yr ail dro eleni

Mae myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn mentro i fyd gwaith yn ystod gwyliau hanner tymor.

Mae dysgwyr y cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch yn mynd ar leoliad gwaith am yr ail dro'r flwyddyn academaidd hon.

Fel rhan o’u cwrs, mae gofyn i fyfyrwyr campysau Pwllheli a Dolgellau ennill 20 diwrnod o brofiad gwaith peirianneg.

Meddai Emlyn Evans sy'n ddarlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Yr wythnos nesaf bydd 14 o fyfyrwyr yn mentro allan i fyd gwaith gyda chwmnïau amrywiol yn yr ardal leol am yr ail dro. Mae dyddiadau pellach wedi’u cynllunio ym mis Ebrill a mis Mai 2024.”

Bydd y myfyrwyr yn cael profiad peirianneg yn y byd go iawn gyda chwmnïau sy'n cynnwys Atomfa Trawsfynydd, Rehau Blaenau Ffestiniog, Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Zip World, Hufenfa De Arfon, Pace Fire & Security, Bridge Garage Pwllheli, First Hydro Llanberis a Hochtief National Grid ar Brosiect Aber Afon Dwyryd.

Ychwanegodd: “Hoffai staff Coleg Meirion-Dwyfor ddiolch i’r cwmnïau hynny sydd wedi derbyn y dysgwyr ar brofiad gwaith yn ystod yr wythnos hon.

“Rydym yn gobeithio y bydd Osian, Liam, Celt, Jac R, Evan, George, Moses, Jack T, Jac F, Guto, Morus, Math, Cai ac Isabella yn mwynhau’r profiad sydd wedi’i drefnu ar eu cyfer gan y cyflogwyr.

“Mae’r cwrs Peirianneg Uwch yn rhoi sgiliau peirianneg cyffredinol i’n myfyrwyr a fydd yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.

“Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i brentisiaethau uwch gyda chwmnïau fel Rolls Royce, Ryanair Maintenance, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Rehau Ltd. Mae eraill wedi mynd ymlaen i astudio peirianneg sifil, peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol a pheirianneg chwaraeon moduro mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr.”

Dylai unrhyw gwmnïau a hoffai fod yn rhan o leoliadau gwaith yn y dyfodol gysylltu ag Emlyn Evans drwy e-bost: evans12e@gllm.ac.uk

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.