Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect Lluosi yn cynnal cyrsiau Cynnal a Chadw Ceir a Weldio yn yr Adran Beirianneg

Mae’r cyrsiau Lluosi - Rhifedd Byw yng Ngholeg Menai yn Llangefni yn rhoi cyfle i ddysgwyr uwchsgilio a defnyddio rhifau mewn amgylchedd byd go iawn

Yr Adran Beirianneg yng Ngholeg Menai yw un o'r adrannau cyntaf i gynnal y cyrsiau newydd. Mae Lluosi - Rhifedd Byw yn brosiect a arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai, ac sy'n cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau rhifedd AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Dechreuodd y cwrs 'Hanfodion Cynnal a Chadw Cerbydau' yn dda iawn gyda'r cwrs yn llawn. Mae'r cwrs yn cynnig cyflwyniad i'r pethau sylfaenol am weithio'n ddiogel ar eich cerbyd, gan gynnwys sut i wirio gwadn, dyfnder a phwysau teiars, sut i newid olwyn a gwirio am hylifau o dan foned, ymhlith pethau eraill.

Gwahoddir dysgwyr i ddod â'u cerbyd eu hunain i mewn er mwyn deall sut i wneud gwiriadau Cyn-MOT. Nid yn unig y mae'r cwrs yn gyfle gwerthfawr am brofiad ymarferol ar lawr y siop, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i wella rhifedd trwy dasgau dydd-i-ddydd.

Rhaglen wedi'i hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Lluosi, a'r nod yw helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd.

Mae'r cwrs 'Cyflwyniad i Weldio' hefyd yn cael ei gynnal yn yr Adran Beirianneg. Ar y cwrs hwn cewch wybodaeth am hanfodion weldio, cyngor ymarferol ar iechyd a diogelwch, mesuriadau yn ogystal â phrofiad ymarferol o weldio. Mae ceisiadau eisoes yn cael eu derbyn ar gyfer y cyrsiau nesaf.

Caiff y sesiynau eu cyflwyno ar safle Llangefni gan Owen Hughes a Mark Edwards, dau ddarlithiwr peirianneg profiadol.

Eglurodd y Dirprwy Reolwr Maes Rhaglen Arron Peel, sydd wedi gweithio’n agos gyda thîm Lluosi: "Mae'n gyfle gwych i bobl ddod i'r coleg i wella'u sgiliau a dod yn fwy hyderus ac yn fwy ymwybodol o hanfodion cerbydau a thechnegau weldio. Maen nhw’n defnyddio rhifau mewn amgylchedd byd go iawn i ddatrys, deall a dysgu wrth ennill profiad gwerthfawr.”

Dywedodd Alaw Jones, Cydlynydd Ymgysylltu Prosiect Lluosi ar gyfer Ynys Môn: "Mae’r cyrsiau’n dod yn fwy poblogaidd yn y gymuned. Mae'n bwysig gallu estyn allan at ddysgwyr nad ydynt efallai wedi ymgysylltu â'r coleg fel arall.

“Mae'n wych gallu cynnig ffordd wahanol i bobl wella eu sgiliau rhifedd, tra hefyd roi blas iddynt o beth arall mae’r coleg yn ei gynnig. Efallai y byddwn yn denu rhai yn ôl i ddysgu, tra bydd eraill yn dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu helpu i newid gyrfa neu gael dyrchafiad yn y gwaith.”

Mae hyblygrwydd wrth wraidd prosiect Lluosi, a gall y prosiect weithio gyda chi i greu cyrsiau pwrpasol yn unol ag anghenion unigolyn neu sefydliad. Cynhelir y cyrsiau ledled ein campysau coleg ac yn y gymuned.

Gellir darparu tiwtora un-i-un hefyd ar gyfer y rhai sydd am gael cymhwyster ffurfiol mewn mathemateg, fel TGAU neu Gymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru.

I gael rhagor o fanylion am y cyrsiau cyffrous sydd i ddod a chymhwysedd, cliciwch yma. Gallwch hefyd anfon e-bost atom lluosi@gllm.ac.uk neu ffonio 01492 542 338.