Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lansio Rhaglen Fentora Camau Cefnogol i Ddysgwyr y Coleg

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi lansio rhaglen fentora i roi cymorth i'w ddysgwyr.

Bydd Camau Cefnogol yn darparu cymorth cyfannol wedi'i deilwra i fynd i'r afael ag anghenion amrywiol pobl ifanc a'u helpu i groesi'r bont o'r ysgol i addysg bellach. Bydd tîm ymroddedig o fentoriaid yn cefnogi dysgwyr gyda'u hiechyd meddwl a'u lles, eu lles actif, eu hanghenion dysgu ychwanegol, eu hymddygiad a'u presenoldeb. Byddant hefyd ar gael i'w cynorthwyo i gwblhau eu gwaith cwrs.

Mae'r rhaglen wedi galluogi'r Grŵp i fuddsoddi'n sylweddol er mwyn gallu ymateb i'r galw cynyddol am gymorth iechyd meddwl. Bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at fwy o wasanaethau cwnsela yn y coleg, cymorth iechyd meddwl wrth drosglwyddo o'r ysgol i'r coleg, ac asesiadau a chymorth iechyd meddwl arbenigol.

Bydd y cynllun, a ariennir drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael i bobl ifanc 16-25 oed sy'n astudio ar un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae'r rhaglen yn nodi ac yn dileu'r rhwystrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant sy'n wynebu'r dysgwyr presennol a'r rhai sy'n gadael yr ysgol ac yn symud i Addysg Bellach. Drwy ganolbwyntio ar hybu ffyrdd iachach o fyw, cyfrannu cymunedol, a gwell rheolaeth o iechyd meddwl, nod Camau Cefnogol yw lleihau dibyniaeth ar wasanaethau meddygon teulu a'r GIG a lleddfu rhwystrau ariannol sy'n gysylltiedig â thlodi.

Yn ôl James Nelson, Uwch Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd,

“Mae sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu ffynnu a llwyddo wrth astudio gyda ni yn un o’n prif flaenoriaethau, ac rydym yn hynod falch o lansio'r rhaglen Camau Cefnogol.

“Rydym wedi cynllunio'r rhaglen i gael effaith gadarnhaol ar les dysgwyr, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, gwella gwytnwch, a sicrhau ymgysylltiad gweithredol â dysgu yn y coleg. Yn y pen draw, dylai hyn arwain at fwy o ddysgwyr yn “gwella eu dyfodol” drwy gael y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

“Hoffem ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus i'r cynllun trawsnewidiol hwn.”

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Bro.