Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr chwaraeon moduro yn ymweld â ffatri sydd wedi ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd

Bu dysgwyr Coleg Menai hefyd ar daith o amgylch adran chwaraeon moduro Coleg Myerscough

Cafodd myfyrwyr peirianneg chwaraeon moduro Coleg Menai eu hysbrydoli gan ymweliad diweddar â ffatri M-Sport yn Ardal y Llynnoedd.

Aethant hefyd i ymweld ag adran chwaraeon moduro Coleg Myerscough yn Swydd Gaerhirfryn, lle cawsant gipolwg ar gyfleoedd astudio pellach yn y maes.

M-Sport yw cartref tîm Pencampwriaeth Rali'r Byd Ford, sydd hefyd yn gweithgynhyrchu'r Bentley Continental GT3 ac yn bartner i Jaguar mewn chwaraeon moduro trydan.

Yn y ffatri yn Cumbria, cafodd y dysgwyr gyfle i weld cerbydau rasio o’r radd flaenaf – gan gynnwys Car Rali’r Byd Ford Puma Hybrid, Ford Fiesta a enillodd Bencampwriaeth Rali’r Byd, ceir rasio Bentley GT a cheir Rali’r Byd clasurol.

Dywedodd y darlithydd peirianneg Daron Evans: “Mae ffatri M-Sport fel unrhyw safle cynhyrchu arall, heblaw eu bod yn cynhyrchu ceir rali gwerth £1m yr un.

“Mae popeth yn cael ei gynhyrchu yno, o ddyluniadau pen-a-phapur i'r cynnyrch terfynol. Dywedodd y dysgwyr ei fod yn wahanol i unrhyw beth y maent wedi'i weld o'r blaen, ac mae'n rhoi ychydig mwy o gymhelliant iddyn nhw.

“Mae tîm M-Sport yn cystadlu ar draws y byd, ac mae ei weld â'u llygaid eu hunain yn ysgogi'r dysgwyr i feddwl, ‘efallai y galla' i deithio’r byd’.

“Mae pob un o’n dysgwyr ail flwyddyn chwaraeon moduro wedi cael cynnig lle mewn prifysgol o'u dewis, gydag un myfyriwr hyd yn oed wedi cael y cyfle i astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Chwaraeon Modur ym Mhrifysgol Coventry.

“I fyfyrwyr sy’n ein gadael ni i fynd i’r brifysgol, gallai hwn fod yn llwybr gyrfa iddyn nhw. Gallent gael lleoliad gwaith yno fel rhan o gwrs prifysgol neu gallent ennill prentisiaeth, felly roedd yn agoriad llygad o ran yr hyn sydd ar gael iddynt.

“Mae rhai o'n myfyrwyr yn â'u bryd ar y byd dylunio, mae rhai eisiau mynd i faes peirianneg data, mae rhai yn dechnegwyr. Mewn tîm fel M-Sport mae ganddyn nhw rolau ar wahân a phenodol ar gyfer popeth - mae ganddyn nhw dechnegwyr injan, technegwyr trawsyrru, technegwyr brêc ac ati - felly gallant weld y llwybrau sydd ar gael iddyn nhw.”

Yng Ngholeg Myerscough, sy'n cynnig cyrsiau chwaraeon moduro hyd at lefel gradd, roedd dysgwyr yn gallu gweld cerbydau prosiect myfyrwyr gan gynnwys ceir rali a cheir Fformiwla Ford un sedd.

Roedd staff hefyd yn gallu myfyrio ar ffyrdd o wella darpariaeth Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3 Coleg Menai, sydd bellach yn ei ail flwyddyn ar gampws Llangefni.

Dywedodd Daron: “Roedd ymweld â Myerscough o fudd i ni fel staff oherwydd cawsom weld yn union sut maen nhw’n gweithredu, a chawsom rai syniadau ar sut y gallwn wella ein cwrs ein hunain.”

Coleg Menai yw'r unig goleg yng Ngogledd Cymru sy'n cynnig peirianneg chwaraeon moduro. Mae’r cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth dechnegol i ddysgwyr symud ymlaen i yrfa, prentisiaeth neu radd prifysgol mewn chwaraeon moduro.

Darperir yr holl hyfforddiant mewn gweithdai peirianneg sy'n cyrraedd safon y diwydiant ac ystafelloedd dosbarth sy'n canolbwyntio ar dechnoleg, gyda 150 awr wedi ei leoli mewn diwydiant yn y flwyddyn gyntaf.

Mae dysgwyr hefyd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan fel peiriannydd chwaraeon moduro ar drac rasio, i addasu cerbyd ffordd i safon rali, ac i wirfoddoli fel swyddogion diogelwch mewn ralïau chwaraeon moduro.

Ydych chi eisiau gweithio ym myd cyffrous chwaraeon moduro? Nod cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3 Coleg Menai yw datblygu peirianwyr chwaraeon moduro’r dyfodol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.