Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr peirianneg yn targedu fformiwla berffaith ar gyfer llwyddiant

Mae timau Coleg Meirion-Dwyfor yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth F1 mewn Ysgolion ac wedi defnyddio pecyn dylunio gyda chymorth cyfrifiadur i greu eu dyluniadau ar gyfer eu profi

Mae myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Fformiwla Un mewn Ysgolion 2024.

Mae Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau, yn paratoi’r saith tîm ar gyfer digwyddiad eleni, a gynhelir yn Ninbych ar Chwefror 1.

Meddai: “Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi’u dysgu ers mis Medi. Mae gwaith tîm, craffter busnes, marchnata, dylunio a pheirianneg yn elfennau allweddol o'r gystadleuaeth, wrth baratoi ar gyfer diwrnod y ras.

“Mae gennym ni gyfanswm o bedwar tîm o Bwllheli a Dolgellau sydd ym mlwyddyn gyntaf cwrs dwy flynedd BTEC Lefel 3 Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol. Maent eisoes wedi sefydlu eu timau, wedi creu logos ac mae pob un wedi ymgymryd â’r rolau allweddol o fewn y tîm gan gynnwys dylunio, marchnata, cyllid, gweithgynhyrchu, nawdd a rheoli prosiectau.”

Ym mis Rhagfyr, bu’r peirianwyr dylunio a'r peirianwyr gweithgynhyrchu yn ymweld â chanolfan beirianneg Coleg Menai yn Llangefni i beiriannu eu dyluniadau cychwynnol er mwyn eu profi.

Gan ddefnyddio Fusion 360, pecyn dylunio 3D, trawsnewidiodd y myfyrwyr eu model 3D yn godau-G, a ddefnyddiwyd wedyn fel y rhaglen sylfaenol i beiriannu’r ceir rasio.

Dywedodd Emlyn: “Hoffem ddiolch i Bryn Jones o Goleg Menai am ei amser, ac am rannu ei brofiad gyda’n myfyrwyr i’w galluogi i drawsnewid eu dyluniadau yn gar rasio wedi’i beiriannu yn barod ar gyfer ei ragbrofi.”

Timau Coleg Meirion-Dwyfor sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth eleni yw:

  • Mach-7
  • Meistri Meirionnydd
  • Mynd a dod
  • Brochdewion Hafan
  • Peryglon Melyn

Am y tro cyntaf eleni, mae Coleg Meirion-Dwyfor hefyd yn cefnogi tair ysgol leol gyda’u dau dîm yn nigwyddiad eleni.

Mae hyn yn rhan o fodiwl Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur newydd sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o ddarpariaeth beirianneg 14-16 barhaus y coleg.

Mae’r dysgwyr yn astudio tuag at eu TGAU yn Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli, Ysgol Botwnnog ac Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, ac yn astudio gyda Choleg Meirion-Dwyfor ar gampws peirianneg Hafan ym Mhwllheli un prynhawn yr wythnos.

Mae Tîm Hadron yn cynnwys dysgwyr o Ysgol Botwnnog ac Ysgol Eifionydd, tra bod Tîm Panthers Pwllheli yn cynnwys dysgwyr o Ysgol Glan y Môr.

Dywedodd Emlyn: “Mae gennym ni rai cyfleoedd nawdd ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi unrhyw un o'n timau byddwch yn cael eich gwobrwyo â logo eich cwmni ar ddillad y tîm ac ar y car rasio.

“Cadwch olwg am ddiweddariadau pellach wrth i ni baratoi i rasio yn nigwyddiad F1 mewn ysgolion ar 1 Chwefror 2024.”

Os hoffai unrhyw un noddi un o dimau Coleg Meirion-Dwyfor yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion, e-bostiwch ev.evans@gllm.ac.uk

Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau cyffrous yma.