Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Dolgellau yn cerdded Llwybr Mary Jones.

Bu myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o her yn ddiweddar. Penderfynon nhw gerdded Llwybr Mary Jones, 28 milltir o Lanfihangel y Pennant i'r Bala gan godi arian i dîm Achub Mynydd De Eryri.

Ar ddechrau’r daith fe wnaethon nhw gwrdd â Nick Young a Neil Champion o’r tîm achub mynydd fe gafwyd esboniad am eu gwaith yn ymdrin â gwahanol ddigwyddiadau brys ar Gader Idris. Yna gwnaeth y criw eu ffordd i Ddol Idris lle cwrddon nhw â Rhys Gwynn, warden Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer ardal Dolgellau. Cafwyd sgwrs ddifyr gan Rhys am ei waith – yn mapio tirnodau penodol ar Gader Idris gyda’u henwau lleoedd Cymraeg, datblygiadau mewn plannu fflora a ffawna brodorol a monitro eu tyfiant yn ogystal ag egluro effaith Covid ar niferoedd ymwelwyr i’r ardal.

Meddai Huw Evans, myfyriwr ar y cwrs Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored

” Mwynheais gerdded gyda’r grŵp a dangos y tirnodau gwahanol o gwmpas Brithdir lle rwy’n byw”

Cafwyd cychwyn cynnar ar yr ail ddiwrnod yn cerdded trwy Ddolfeili i Lanuwchllyn. Wrth iddyn nhw wneud eu ffordd i'r Bala roedd Arwel Morris Warden Parc Cenedlaethol Eryri Y Bala yn aros amdanynt er mwyn trafod datblygiad amddiffynfeydd llifogydd ar gyrion Llyn Tegid.

Meddai Jess Day, myfyriwr ar y cwrs Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored

“Mae fy nheulu’n dod yn wreiddiol o Lanfihangel y Pennant ac roedd y sgyrsiau gyda thim achub mynydd a’r wardeniaid yn ddiddorol iawn i mi, a chael dysgu am eu gwaith mewn gwahanol rannau o’r parc cenedlaethol”.

I ddsygu mwy am y cwrs cliciwch YMA