Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant myfyrwyr a staff o Grŵp Llandrillo Menai yng nghystadleuaeth Centenary Shield

Chwaraeodd myfyrwyr a staff o Academi Chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai ran allweddol ym muddugoliaeth Tîm Pêl-droed Ysgolion Cymru yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Centenary Shield, y tro cyntaf iddynt godi'r darian ers dros 40 o flynyddoedd!

Enillodd tîm FA Ysgolion y darian am y tro cyntaf mewn 41 o flynyddoedd yn ystod diwrnod hanesyddol ar yr Oval - cartref tîm Pêl-droed Tref Caernarfon.

Mae Cystadleuaeth y Centenary Shield yn gystadleuaeth ryngwladol i fyfyrwyr a disgyblion ysgol dan 18 oed. Yn ystod y gystadleuaeth ceir timau o Loegr, Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Mae FA Ysgolion Cymru yn ddarparwr addysg cenedlaethol, ei brif nodau ydy datblygu cyfleodd i chware pêl-droed mewn ysgolion a cholegau ac ysbrydoli merched a phobl ag anableddau i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Roedd gêm olaf Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Enillodd Cymru o ddwy gôl i ddim a chipio'r fuddugoliaeth a'r darian Centenary. Roedd dau aelod o staff Grŵp Llandrillo Menai, noddwr swyddogol y gêm yn yr Oval, a dau ddysgwr o'r coleg yn rhan o'r tîm buddugol.

Rheolwr y tîm ydy Marc Lloyd Williams sydd wedi bod yn arweinydd rhaglen, darlithydd a chydlynydd academi ar gampws Coleg Menai ym Mangor ers 16 o flynyddoedd. Mae Marc yn gyn-beldroediwr proffesiynol â phrofiad helaeth o chwarae'n broffesiynol yn y Gynghrair Pêl-droed gyda Stockport County, yn ogystal â rhai clybiau yng Nghymru. Mae hefyd yn ohebydd ar y cyfryngau yn ei amser sbâr dros y BBC ac S4C.

Dywedodd Marc: “"Roedd y noson yn brofiad arbennig, un fydd yn sefyll allan i mi o fy nghyfnod pêl-droed, yn enwedig fy nghyfnod fel rheolwr. Roedd y teimlad o fod y rheolwr Cymreig cyntaf ers dros 40 mlynedd i ennill y darian yn anhygoel, ac roedd ennill o fewn tafliad carreg i ble ces i fy magu - gydag aelodau o'r teulu a ffrindiau yn y dorf yn rhywbeth fydd yn aros yn fy nghof am byth."

Hyfforddwr y tîm ydy Dave Webb, rheolwr maes rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Llandrillo, a'r myfyrwyr a gymerodd rhan oedd Caio Evans o adran Gwyddor Chwaraeon Coleg Menai a Gruffudd Ellis sy'n dilyn cwrs Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo. Mae'r ddau hefyd yn chwarae i dîm Tref Caernarfon.

Mae Marc hefyd yn gobeithio profi rhagor o lwyddiant gyda thîm FA Ysgolion Cymru yn y dyfodol: “Mae'r llwyddiant hwn yn dangos pa mor bwysig ydy'r coleg i'r Academi Pêl-droed, mae'r chwaraewyr a'r rheolwyr wedi profi llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol yn ystod y tymor hwn a dros y blynyddoedd. Y gobaith rŵan ydy codi proffil Academi'r Coleg a chanfod rhagor o fyfyrwyr fydd yn serennu ar y cae pêl-droed ar lefel genedlaethol a rhyngwladol."

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hacademi Pêl-droed ewch i www.gllm.ac.uk/academies