Myfyrwyr Gradd Awyr Dgored yn Cychwyn ar Bartneriaeth Gyda’r Urdd
Yn ddiweddar cafodd pedwar o fyfyrwyr gradd sylfaen mewn Hamdden Awyr Agored eu dewis i fod yn rhan o gynllun uchelgeisiol mewn partneriaeth gyda chanolfan awyr agored yr Urdd yng Nglan-llyn.
Yn ddiweddar cafodd pedwar o fyfyrwyr gradd sylfaen mewn Hamdden Awyr Agored eu dewis i fod yn rhan o gynllun uchelgeisiol mewn partneriaeth gyda chanolfan awyr agored yr Urdd yng Nglan-llyn.
Mae Lara Abbott o Lanelltud, Rhys Taylor-Clark o Harlech, Sion Lloyd-Morris a Benrhyndeudraeth a Nathan Morris o Dywyn newydd gychwyn eu gwaith hyfforddi yn y ganolfan, am ddau ddiwrnod yr wythnos, fel rhan o’r bartneriaeth dysgu a hyfforddi newydd rhwng Coleg Meirion-Dwyfor ar Urdd.
Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau academaidd gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol yng Nghanolfan Awyr Agored Glan-llyn ac ennill cymwysterau awyr agored pellach a sgiliau gwaith gwerthfawr.
Dywedodd Sion Lloyd o Lan-llyn,
“Yr hyn yr hoffem ei gynnig, drwy’r coleg, i’r myfyrwyr hynny sydd â gwir ddiddordeb yn yr awyr agored ydi’r cyfle i weithio am ddau ddiwrnod yr wythnos yn ennill cyflog a phrofiad yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn fel estyniad naturiol i’r cwrs gradd.”
Ychwanegodd,
“Trwy ddatblygu hyfforddiant a chymwysterau yn yr awyr agored, bydd myfyrwyr yn cael profiadau gwerthfawr, yn ogystal â chyfle i roi eu gwaith theori ar waith mewn lleoliad ymarferol. Bydd myfyrwyr yn dechrau fel Hyfforddwyr Awyr Agored yn y ganolfan.”
Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau academaidd gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol yng Nghanolfan Awyr Agored Glanllyn ac ennill cymwysterau awyr agored pellach a sgiliau gwaith gwerthfawr.
Mae’r myfyrwyr hefyd wedi llwyddo i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gwblhau eu haseiniadau yn Gymraeg. Meddai Sara Davies, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Mae hyn yn newyddion gwych bod myfyrwyr yn cyfuno eu hastudiaethau academaidd gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol yng Nglan-llyn.”
Meddai Lara Abbott, myfyriwr ar y Cwrs Gradd Sylfaen, Hamdden Awyr Agored,
“Rwy’n hapus i fod yn astudio’n lleol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a chael y cyfle i ennill sgiliau gwaith pellach gyda Glanllyn ar yr un pryd”
Ychwanegodd Nathan Morris, sydd hefyd yn astudio Cwrs Gradd Sylfaen, Hamdden Awyr Agored,
“Rwy’n falch fy mod wedi symud ymlaen i gwrs Lefel 4 yn y coleg a fy mod yn ennill cymwysterau awyr agored pellach a gweithio gyda Glanllyn, mi fydd hyn yn help mawr i mi yn y dyfodol.”
Meddai Eifion Owen, Rheolwr Maes Rhaglen y cwrs Gradd Awyr Agored yn Nolgellau:
"Rydym yn croesawu’r fenter hon yn fawr gan ei fod yn caniatáu i ddysgwyr Gradd Sylfaen gael cyflogaeth berthnasol yn ardal y coleg. Bydd hyn o fudd i'r profiad dysgu ac yn galluogi'r Urdd i gyflogi unigolion dawnus, lleol. Rydym fel coleg yn dymuno pob llwyddiant i Lara, Rhys, Sion a Nathan yn eu hastudiaethau”
I ddarganfod mwy am y Radd Sylfaen Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) a gynigir yng Ngholeg Meirin-Dwyfor, cliciwch yma.