Myfyrwyr yn Ennill Medalau Mewn Gemau Terfynol Wordskills UK!
Mae tri myfyriwr o Goleg Menai wedi dod adre o Rowndiau Terfynol Worldskills UK gyda medalau arian ac efydd.
Mae Worldskills UK yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a hyfforddeion i gystadlu mewn ymgais i fod yn enillydd coronog eu maes neu grefft arbenigol.
Yn dilyn y Rowndiau Cymhwysol Rhanbarthol, a gynhaliwyd mewn gwahanol golegau ar draws y DU yn gynharach eleni, cynhaliwyd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ar draws y DU, rhwng Tachwedd 14 a 18.
Teithiodd Thomas Devine, Josh Woosnam a Cody Cooper i gyd i'w cystadlaethau neilltuol gydag un o'u darlithwyr yn y coleg.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth blastro yng Ngholeg Caeredin, lle'r enillodd Josh y fedal Efydd, a chipiodd Thomas yr Arian.
Teithiodd Cody i Goleg Caerdydd a'r Fro i gymryd rhan yn y Sgiliau Sylfaen: Cystadleuaeth Iechyd a Gofal cymdeithasol, ac enillodd y wobr arian.
Esboniodd Mark Allen, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai,
"Rydym i gyd yn hynod falch o Cody, Josh a Thomas. Mae eu cyflawniad i gyrraedd y rowndiau terfynol ar lefel genedlaethol yn un arbennig ac yn brawf o'u gwaith caled. Rydym mor falch i weld fod eu hymdrechion a'u hymrwymiad wedi talu ar ei ganfed.”
Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Weithredwr, Worldskills UK,
"Llongyfarchiadau i Josh, Thomas a Cody ar eu llwyddiant o ran medalau yn rownd derfynol Worldskills eleni. Gobeithiwn y bydd eu cyflawniad yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaeth a hyfforddiant technegol fel llwybr i fwy o lwyddiant gyrfaol".
Ychwanegodd,
"Gan ddefnyddio'r mewnwelediad a enillir o'n rhaglenni seiliedig ar gystadleuaeth, gweithiwn gydag ein partneriaid i godi safonau mewn hyfforddiant, gan helpu i yrru twf economaidd ar draws y DU."